Cytunaf yn llwyr gyda galwad Angharad Tomos (Golwg 06/06/24) i wneud rhywbeth i gefnogi myfyrwyr Bangor yn eu gwersyll ger Pontio, Bangor. Fel un a gafodd radd gan Brifysgol Bangor, teimlaf yn gryf iawn na ddylai Bangor fod yn buddsoddi mewn cwmnïau sydd â chysylltiadau ag Israel. Oni fydd y Brifysgol yn gwrando ar gais y myfyrwyr ac yn gwneud safiad, teimlaf fod rhaid i ni  – cyn-fyfyrwyr Bangor – wneud safiad.