Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cyhoeddi’r garfan o 34 chwaraewr fydd yn teithio i Awstralia ar gyfer gemau’r haf.

Bydd y garfan, dan arweiniad y bachwr Dewi Lake, yn teithio ddydd Mercher (Mehefin 26) ac yn chwarae dwy gêm brawf, yn Sydney a Melbourne, a gêm baratoadol yn erbyn Queensland Reds yn Brisbane.

Mae tri chwaraewr heb gap yn y garfan o 19 o flaenwyr a 15 o olwyr, sef y bachwr Efan Daniel (Rygbi Caerdydd) a’r asgellwyr Regan Grace (Caerfaddon) a Josh Hathaway (Caerloyw).

Mae Keiron Assiratti (cefn) ac Elliot Dee (ffêr) allan ag anafiadau, a does dim lle i Henry Thomas wrth iddo yntau barhau i wella o anaf i’w droed.

Dywed Warren Gatland ei fod e’n disgwyl “dwy gêm gystadleuol” yn erbyn Awstralia, bod carfan Cymru’n destun “cyffro” a’u bod nhw’n “edrych ymlaen at yr her”.

Carfan Cymru

Blaenwyr

Corey Domachowski (Rygbi Caerdydd), Kemsley Mathias (Scarlets), Gareth Thomas (Gweilch), Efan Daniel (Rygbi Caerdydd), Dewi Lake (Gweilch, capten), Evan Lloyd (Rygbi Caerdydd), Archie Griffin (Caerfaddon), Dillon Lewis (Harlequins), Harri O’Connor (Scarlets), Ben Carter (Dreigiau), Cory Hill (Secom Rugguts), Dafydd Jenkins (Caerwysg), Matthew Screech (Dreigiau), Christ Tshiunza (Caerwysg), James Botham (Rygbi Caerdydd), Mackenzie Martin (Rygbi Caerdydd), Taine Plumtree (Scarlets), Tommy Reffell (Caerlŷr), Aaron Wainwright (Dreigiau)

Olwyr

Ellis Bevan (Rygbi Caerdydd), Gareth Davies (Scarlets), Kieran Hardy (Scarlets), Sam Costelow (Scarlets), Mason Grady (Rygbi Caerdydd), Eddie James (Scarlets), Ben Thomas (Rygbi Caerdydd), Nick Tompkins (Saracens), Owen Watkin (Gweilch), Rio Dyer (Dreigiau), Regan Grace (Caerfaddon), Josh Hathaway (Caerloyw), Liam Williams (Kubota Spears), Jacob Beetham (Rygbi Caerdydd), Cameron Winnett (Rygbi Caerdydd)