Bydd Geraint Thomas yn cystadlu yn ras feics y Tour de France eto eleni.

Dyma fydd ei drydydd tro ar ddeg yn y ras fawr yn Ffrainc.

Enillodd e’r ras fawr yn 2018, ac fe orffennodd e’n ail yn 2019 ac yn drydydd yn 2022.

Mae e wedi sicrhau ei le ar ôl gorffen ar y podiwm yn y Giro d’Italia yn yr Eidal.

Carlos Rodríguez ac Egan Bernal fydd yn arwain y tîm, sy’n cynnwys dau gyn-enillydd a phum enillydd cymal.

Mae’r wyth yn y tîm wedi cystadlu 39 o weithiau yn y Tour de France rhyngddyn nhw.

Yr aelodau eraill yn y tîm yw Carlos Rodríguez, Egan Bernal, Jonathan Catroviejo, Laurens De Plus, Michal Kwiatkowski, TOM Pidcock a Ben Turner.