Mae tymor Cynghrair yr Haf, Dyffryn Clwyd wedi dod i ben gyda Llanrhaeadr ar frig y tabl am yr ail dymor yn olynol a chlwb Llangynhafal yn ail agos.

Dyma’r tymor cyntaf i mi deithio draw i wylio gêm yn y gynghrair: gêm gartref Llanrhaeadr yn erbyn Cefnmeiriadog ar Fehefin 10, pan orfu’r tîm sy’n chwarae ar gae Ysgol Bro Cinmeirch, ac sydd bellach yn bencampwyr, o bedair gôl i ddim.

Roedd hi’n gêm arbennig o dda, gyda thorf ymhell dros gant yn mwynhau gornest oedd, ar brydiau, yn edrych fel y byddai’r sgôr yn llawer agosach. Wedi dweud hynny, roedd amddiffyn Llanrhaeadr fel y graig, y canol cae’n drefnus a chafwyd goliau arbennig gan Kevin Evans, Llŷr Morris (dwy), a Sam Jones. Er mai cynghrair haf sy’n dechrau ganol mis Ebrill yw hi, roedd y tywydd yn ddigon oer ond, diolch i’r drefn, yn sych. A da oedd cael paned hanner amser!

Mae’r gynghrair wedi bod mewn bodolaeth ers 1926, ac wedi gweithredu tu allan i reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda’r gofyn i bob chwaraewyr “fyw o fewn ffin benodedig ar gyfer y clwb hwnnw”. Caerwys, Cefnmeriadog, Clawdd Newydd, Henllan, Llandyrnog, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llangynhafal, Llanrhaeadr, Nantglyn, Rhewl, Trefnant ac Ysgeifiog ydi’r timau sy’n cystadlu, ac mae gwefan y Gynghrair yn adrodd hanes pob un o’r clybiau hynny.

Eleni, roedd fy nghyfaill Ifor Roberts, Penegoes, wedi cael y blaen arnaf ac wedi mynd draw i wylio Llandyrnog yn colli o chwe gôl i ddim yn erbyn Ysceifiog, ac mae’r ddau ohonom wedi mwynhau dilyn cyfrif X [Twitter gynt] Mari Jones o Ddinbych drwy gydol y tymor. Mae’r cyfrif (@maricj25) yn cynnwys adroddiadau byr a lluniau gwerthchweil, a’r wybodaeth yn ein cyrraedd yn syth ar ôl y gemau.

Roedd Mari yn y gêm olaf honno, a dyma oedd ganddi i’w ddweud wrthym ar ôl y chwiban olaf:

“Cystadleuaeth wych eto eleni, Llanrhaeadr yn haeddu ennill ond Llangynhafal wedi eu gwthio i’r gêm olaf.”

Byddwch yn gweld ar y wefan fod y ddau dîm wedi colli tair gêm trwy gydol y tymor, ond fod y tîm orffennodd yn ail ddau bwynt ar ei hôl hi ar ddiwedd y ras.

Efallai bod tymor y gynghrair wedi dod i ben, ond dyw hi ddim yn rhy hwyr i wylio gemau Cynghrair yr Haf, Dyffryn Clwyd.

Heno (nos Lun, Gorffennaf 1), bydd rownd gyntaf Tarian Goffa Bridson ac Evans gaiff ei noddi er cof am Clwyd Rogers, Llanefydd gyda’r ffeinal ar nos Wener, Gorffennaf 12 am 7.00yh, mewn lleoliad i’w gadarnhau. Hefyd, bydd cystadleuaeth plant cynradd y gynghrair ar ddydd Sul, Gorffennaf 7 yn Llanrhaeadr, a’r Sul canlynol bydd y disgyblion uwchradd yn cystadlu ar Gae Cymro, Clawddnewydd.

Ddoe (dydd Sul, Mehefin 30), roedd cystadleuaeth y gwpan i’r merched, cystadleuaeth saith bob ochr, gyda chyfuniad o Henllan a Cefn yn curo Nantglyn yn y ffeinal o ddwy gôl i ddim.

Dwi’n annog pawb i wylio gemau’r Gynghrair Haf tymor nesaf – mae ynddyn nhw awyrgylch arbennig, a’r Gymraeg i’w chlywed yn groch ar y cae ac oddi ar y cae.

Ewch draw i’r wefan ac, os gallwch, ceisiwch gael gafael ar gopi o hanes y gynghrair o’i ffurfio hyd at 1995 R. Emlyn Jones, Cynghrair yr Haf, Dyffryn Clwyd.