Mae dyfalu y bydd Rob Page yn gadael ei swydd yn rheolwr ar dîm pêl-droed Cymru heddiw (dydd Gwener, Mehefin 21).

Daw hyn ar ôl i’r tîm cenedlaethol fethu â chyrraedd yr Ewros am y tro cyntaf ers 2012.

Mae’r Cymro wrth y llyw ers tair blynedd a hanner, ond fe fu cryn bwysau arno yn dilyn canlyniadau diweddar y tîm, a dydy’r perfformiadau yn erbyn Gibraltar – gêm gyfartal ddi-sgôr – a Slofacia – colled o 4-0 – heb wneud ryw lawer i leddfu pryderon y Wal Goch.

Mae adroddiadau bod penaethiaid Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn cynnal trafodaethau ers wythnos.

Roedd Page eisoes dan y lach ar ôl ymgyrch siomedig yng Nghwpan y Byd 2022, cyn i Gymru golli yn erbyn Armenia mewn gêm ragbrofol ar gyfer yr Ewros eleni, er iddyn nhw gipio buddugoliaeth annisgwyl dros Croatia.

Lai na thri mis ers i’r Gymdeithas Bêl-droed gefnogi’r rheolwr yn gyhoeddus, mae’n ymddangos ei bod hi ar ben ar Rob Page.

Mae Cymru wedi ennill 15 o gemau allan o 45 ers iddo fe gael ei benodi, ac fe fyddan nhw’n herio Twrci ar Fedi 6 a Montenegro ar Fedi 9.