Mae cyfrif X (Twitter gynt) ar gyfer cefnogwyr Cymraeg Clwb Pêl-droed Manchester United wedi canmol penderfyniad y clwb i ymestyn cytundeb y rheolwr Erik ten Hag.

Fe fu’r Iseldirwr dan bwysau mawr yn ddiweddar yn sgil perfformiadau a chanlyniadau, ond yn dilyn adolygiad o’r tymor daeth cadarnhad bellach y bydd e’n aros wrth y llyw ac y bydd y clwb yn cynnal trafodaethau ynghylch ei gytundeb yn fuan.

Mae gan y rheolwr flwyddyn yn weddill o’i gytundeb presennol.

Mae’n ymddangos bod y penderfyniad i’w ymestyn wedi’i sbarduno gan fuddugoliaeth y tîm dros eu gelynion pennaf Manchester City, wrth iddyn nhw godi Cwpan FA Lloegr yn ddiweddar.

Osgoi’r sac

Roedd adroddiadau cyn y gêm derfynol yn Wembley y byddai Erik ten Hag yn cael ei ddiswyddo, waeth beth fyddai’r canlyniad.

Ond mae’n ymddangos bellach fod y fuddugoliaeth wedi arwain at dro pedol gan y perchnogion, er bod adroddiadau’n ddiweddar yn awgrymu eu bod nhw eisoes wedi cynnal trafodaethau â Thomas Tuchel ynghylch y swydd a bod ganddyn nhw ddiddordeb hefyd yn Mauricio Pochettino, Graham Potter, Thomas Frank, Roberto de Zerbi a Gareth Southgate.

Cyfnod cymysg wrth y llyw

Cafodd Erik ten Hag ei benodi’n rheolwr ar Manchester United yn 2022.

Fe yw’r pumed rheolwr parhaol ar ôl David Moyes, Louis van Gaal, Jose Mourinho ac Ole Gunnar Solskjaer, ers i Syr Alex Ferguson ymddeol yn 2013.

Treuliodd e bedair blynedd a hanner yn rheoli Ajax yn ei famwlad, gan ennill yr uwch gynghrair Eredivisie dair gwaith a dwy gwpan.

Gorffennodd Manchester United yn drydydd yn Uwch Gynghrair Lloegr yn ei dymor cyntaf wrth y llyw, gan gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan FA Lloegr a Chwpan yr EFL.

Daeth ei gwpan gyntaf wrth guro Newcastle yng Nghwpan yr EFL yn 2023, ond fe gollon nhw yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Manchester City rai misoedd wedyn.

Cawson nhw ymgyrch siomedig wedyn yng Nghynghrair y Pencampwyr, gan fethu â chymhwyso o’u grŵp wrth orffen ar waelod y tabl, ac roedden nhw’n cael trafferth cael buddugoliaeth ym mhob cystadleuaeth erbyn hynny.

‘Penderfyniad synhwyrol’

Yn ôl Man Utd Cymraeg ar X (Twitter gynt), “doedd neb ar gael fyddai’n welliant pendant”, ac mae’r penderfyniad i ymestyn ei gytundeb wedi’i alw’n “benderfyniad synhwyrol”.

“Gorffennodd [cyn-reolwr Lerpwl, Jurgen] Klopp a [Mikel] Arteta [rheolwr Arsenal] yr un mor isel gyda’u clybiau nhw cyn cael cyfle i gael eu gafael ar bethau go iawn.

“Amynedd a chefnogaeth i’r rheolwr.”