Mae’r bowliwr cyflym Albanaidd Chris Sole wedi ymuno â Chlwb Criced Morgannwg am bum gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast.

Mae e newydd ddychwelyd o Gwpan T20 y Byd, lle enillodd ei hanner canfed cap dros ei wlad.

Bydd yn cael ei enwi yng ngharfan Morgannwg i herio Surrey ar yr Oval heno (nos Wener, Mehefin 21).

Mae e wedi cynrychioli’r Alban mewn 45 o gemau undydd, ac wedi chwarae mewn nifer o gynghreiriau ugain pelawd o amgylch y byd.

Yn ôl Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, bydd Chris Sole yn ychwanegu cyflymder i’r grŵp o fowlwyr sydd gan y sir.

Dywed Grant Bradburn, Prif Hyfforddwr Morgannwg, fod ganddo fe “sgiliau o safon uchel, profiad a chymeriad” fydd yn werthfawr i’r garfan.

“A finnau wedi cydweithio â Chris o’r blaen yn yr Alban, rydyn ni’n gwybod am y gwerth uchel fydd e’n dod ag e, a dw i’n siŵr y bydd e’n ffynnu yn ein hamgylchfyd,” meddai.

“Dw i wedi cyffroi’n fawr o gael fy nghynnwys yn ymgyrch Vitality Blast Morgannwg, ac alla i ddim aros i ymuno â’r garfan ar yr Oval heno,” meddai Chris Sole.

“Gobeithio y galla i gyfrannu at lwyddiant ar y cae yn yr wythnosau i ddod.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), S Northeast, C Ingram, M Labuschagne, C Cooke, D Douthwaite, T Bevan, W Smale, J McIlroy, B Kellaway, A Gorvin, M Crane, C Sole, T Norton