Mae’r cynhyrchiad arbennig o Nia Ben Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni’n “dangos bod y Gymraeg yn llawer mwy na iaith yr ystafell ddosbarth”, yn ôl un o gyd-drefnwyr y sioe arbennig.

Angharad Lee, cyfarwyddwraig flaenllaw o fro’r Eisteddfod, sy’n gyfrifol am lwyfannu’r sioe, a hithau wedi gweithio ar nifer o brosiectau mawr yr Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf.

Nia Morais, Bardd Plant Cymru, sy’n gyfrifol am ddatblygu’r sgript, ac mae gan y trefniannau cerddorol gan Patrick Rimes a Sam Humphreys o Calan ddylanwadau gwerin Cymreig, Gwyddelig a Llydewig clir yn ogystal ag elfen fwy electro sy’n gwneud y caneuon yn fwy cyfoes.

Bethan Mclean sy’n chwarae rhan Nia.

Mae hi’n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Marged yn Yr Amgueddfa ar S4C a Tasha yn Bwmp, oedd wedi ennill gwobr RTS i S4C yn gynharach eleni.

Victoria Pugh yw’r storïwr, ac mae ganddi brofiad eang ar radio, teledu ac yn y theatr, gan berfformio’n rheolaidd gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd.

Caiff y cymeriad Osian ei bortreadu gan Gareth Elis, sydd wedi perfformio’n helaeth mewn cynyrchiadau i Ganolfan Mileniwm Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Cameron Mackintosh, Cynyrchiadau Leeway Productions ac eraill.

Wyneb cyfarwydd arall ar S4C gyda rhannau ar Pobol y Cwm, Rownd a Rownd a’r gyfres STAD yw Ioan Gwyn, a fe sy’n chwarae rhan y Cychwr.

‘Profiad arbennig’

Un o gyd-arweinyddion Côr yr Eisteddfod, sy’n rhan o’r prosiect hefyd, yw Osian Rowlands.

“Mae bod yn rhan o ddehongliad newydd o sioe sy’n gymaint rhan o hanes cerddorol Cymru wedi bod yn brofiad arbennig iawn i mi a fy nghyd-arweinyddion, Gavin Ashcroft ac Elin Llywelyn,” meddai.

“Roedden ni’n ymwybodol o’r cysylltiad lleol, gan fod Cleif Harpwood yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Rhydfelen, ac yn gwybod y byddai hwn yn brosiect fyddai’n apelio at bobol o bob oed.

“Ond roedd hi’n dipyn o sioc pan ddaeth bron i 400 o bobol i’r ymarfer cyntaf yn Nhrefforest ddechrau’r flwyddyn!

“Mae yna nifer fawr o gantorion di-Gymraeg yn y côr eleni, ac rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith fod pawb eisiau bod yn rhan o’r Eisteddfod.

“Dyma gyfle gwych i ddangos bod y Gymraeg yn llawer mwy na iaith yr ystafell ddosbarth, ac rydw i’n gobeithio y bydd y profiad o ganu yn y côr yn rhoi hyder i bobol ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y dyfodol.”

Hanner can mlynedd ers perfformio Nia Ben Aur

“Eleni mae hi’n hanner can mlynedd ers perfformio Nia Ben Aur am y tro cyntaf, a hynny yn yr Eisteddfod yng Nghaerfyrddin,” meddai Elen Elis, Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod.

“Roedd hi’n sioe eiconig, a’r caneuon yr un mor boblogaidd heddiw ag erioed.

“Rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle i gynnig gwedd newydd ar y stori.

“Bydd hwn yn gynhyrchiad uchelgeisiol, ac yn wledd i’r llygad a’r glust yn bendant.

“Mae cerddoriaeth Patrick a Sam wedi’i threfnu ar gyfer y côr gan Richard Vaughan, ac mae’r caneuon yn gweddu’n berffaith i’r côr, ac rwy’n sicr y bydd y cynhyrchiad hwn yr un mor eiconig â’r gwreiddiol, ac yn cyflwyno clasur i gynulleidfa newydd ar hyd a lled Cymru.”

Bydd dau berfformiad o’r sioe, ar nos Sadwrn, Awst 3 a nos Lun, Awst 5.

Bydd tocynnau ar werth am 12yp ddydd Gwener (Mehefin 14).