Mae rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig “yn adlewyrchu’r cyfoeth o gerddoriaeth sy’n dod allan o Gymru ar hyn o bryd”, yn ôl golygydd y cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar.

Fe fu Owain Schiavone yn mynegi ei farn wrth siarad â golwg360 drannoeth cyhoeddi’r rhestr fer ar raglen Adam Walton ar BBC Radio Wales neithiwr (nos Sul, Medi 1).

Amcan y Wobr ydy cydnabod albwm gorau’r flwyddyn gafodd ei gynhyrchu yng Nghymru neu gan Gymry ar draws y byd.

Bydd yr albwm buddugol yn cael ei gyhoeddi ar Hydref 8, a £10,000 yw’r wobr i’r enillydd.

Cafodd y Wobr ei lansio gan yr hyrwyddwr John Roston a’r cyflwynydd Huw Stephens yn 2011, i gyd-fynd â gŵyl Sŵn Caerdydd.

Mae’r Wobr bellach yn ddigwyddiad ar ei ben ei hun, ac yn gysylltiedig yn hytrach gyda Gŵyl Llais y brifddinas.

Mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys yr artist electronig Kelly Lee Owens, y band roc o Gaerfyrddin Adwaith, a’r gantores Gwenno.

Pymtheg albwm ddaeth i’r brig eleni:

  • Windrush Baby, Aleighcia Scott – Artist Reggae o Gaerdydd, sydd â’i gwreiddiau yn Jamaica, ydy Aleighcia Scott. Mae bellach yn gyflwynydd ar Radio Wales. Dyma’i halbwm cyntaf llawn, a chafodd ei gyhoeddi ym mis Medi 2023 wedi pum mlynedd o waith. Mae’n trafod cariad a cholled, yn ogystal â threftadaeth y Caribî yng ngwledydd Prydain.
  • Motherland, ANGHARAD – Prosiect celfyddydol y canwr ffidil Angharad Jenkins o Abertawe ydy ANGHARAD. Mae hi’n disgrifio’i hunan fel ‘camelion cerddorol’ ac yn ymwneud â themau megis mamolaeth a benywdod gyfoes. Mae ei cherddoriaeth yn cyfuno elfennau ffync, ôl-pync a chanu baled. Cafodd ei halbwm cyntaf ei gyhoeddi ym mis Mawrth eleni.
  • Skinwalker, Buzzard Buzzard Buzzard – Dyma ail albwm y band adfywiad glam roc Buzzard Buzzard Buzzard. Cafodd albwm cyntaf y pedwarawd o Gaerdydd ei enwebu am Wobr 2022. Mae eu cynnig diweddaraf yn troi at sain gitâr fwy tanbaid na’r gwaith blaenorol.
  • Ask for Angela, CHROMA – Triawd indie pync o Bontypridd ydy CHROMA. Mae’r band wedi cefnogi artistiaid mawr megis y Mysterines, IDLES a’r Foo Fighters mewn cyngerddau ar draws gwledydd Prydain. Mae’r record hir cyntaf hwn, sydd wedi’i ohirio ers sawl blwyddyn, yn trafod themâu ffeministaid a bywyd cyfoes.
  • Mynd â’r tŷ am dro, Cowbois Rhos Botwnnog – Dyma ydy chweched albwm y grŵp canu gwlad a gwerin o Ben Llŷn. Fel eu gwaith blaenorol, mae’n cyfuno telynegion rhamantus personol a synnau gitâr melodaidd. Mi fydd y brodyr yn ffefrynnau i ennill y Wobr eleni, wedi iddyn nhw ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod ychydig wythnosau’n ôl.
  • Prism of Pleasure, Elkka – Elkka ydy llysenw Emma Kirby, DJ a chynhyrchydd o Gaerdydd yn wreiddiol, sydd bellach yn byw yn Llundain. Enillodd wobr Cymysgedd Hanfodol y Flwyddyn Radio 1 yn 2021. Mae’r record hir yn trafod themâu cwiar gan gyfuno elfennau techno ac house.
  • Cool Head, Georgia RuthCool Head yw gwaith diweddaraf Georgia Ruth, enillodd y Wobr yn 2013 gyda’i halbwm cyntaf, Week of Pines. Mae’r delynores o Aberystwyth eto yma’n canu cerddoriaeth werin indie yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mi fydd ei halbwm yn cystadlu gydag albwm ei gŵr, Iwan Huws, sy’n aelod o Gowbois Rhos Botwnnog.
  • Sadness Sets Me Free, Gruff Rhys – Dyma record hir newydd y canwr torieithiog Gruff Rhys, sy’n cwblhau ei droad tuag at gerddoriaeth bop gerddorfaol wedi diddymu’r Super Furry Animals. Enillodd Gruff Rhys y Wobr yn 2011, gyda’i albwm Hotel Shampoo.
  • Dollar Lizard Money Zombie, HMS Morris – Trydydd albwm HMS Morris, grŵp roc celf o Gaerdydd, ydy eu trydydd i gael enwebiad i’r Wobr. Mae eu cerddoriaeth yn aml yn chwaraeus ac yn wirion, ond yn medru bod yn heriol hefyd, ac wedi ennill clod gan sawl adolygydd am ei gwreiddioldeb.
  • Blood, Sweat and Tears, L E M F R E C K – Rapiwr ac artist gweledol o Gasnewydd ydy Lemarl Freckleton, sy’n rhyddhau cerddoriaeth dan yr enw Lemfreck. Mae ei ail albwm yn adlewyrchu dylanwad grime ac yn archwilio cymuned fel cymhelliant, gan samplu o archif hanes cerddorol Casnewydd.
  • Dim Dwywaith, Mellt – Cafodd ail albwm llawn y band roc indie o Aberystwyth ei ryddhau fis Awst y llynedd. Dyma gam aeddfetach a mwy dadrithiol gan y pedwarawd, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, ond mae’n un sy’n cadw’r un egni gwefreiddiol a’u hysgubodd i’r amlwg bron i ddeng mlynedd yn ôl.
  • Dal Mynydd, Pys Melyn – Dyma gyfraniad diweddaraf y grŵp indie seicedelig o Ben Llŷn, wedi llwyddiant Bywyd Llonydd yn 2021. Mae olion Gorky’s Zygotic Mynci yn amlwg ar sain yr albwm newydd, sy’n cyfrannu at awyrgylch gysglyd ysgafn ac hafaidd.
  • Smile, Skindred – Mae Smile yn parhau â’r cyfuniad reggae a metal sydd bellach yn adnabyddus gan Skindred. Dyma wythfed albwm y band o Gasnewydd, oedd wedi ffurfio yn wreiddiol yn 1998. Daeth y record yn agos at frig y siartiau Prydeinig fis Awst y llynedd.
  • Deathless, Slate – Dyma sain gyffrous newydd o Gaerdydd sy’n ymdrechu i adlewyrchu bywyd yn y brifddinas. Mae albwm cyntaf y band yn tynnu ar ddylanwadau gothig a shoegaze yr 80au, yn ogystal â gwaith diweddar y grŵp ôl-pync Gwyddelig poblogaidd Fontaines D.C., er mwyn cynhyrchu cerddoriaeth atmosfferig â thelynegion barddonol.
  • Dosbarth Nos, Ynys – Ar eu hail albwm, mae Ynys yn datblygu’n grŵp cain a chrefftus wrth gyfuno bachau gitâr â harmoniau syntheseithydd. Ymdrech ddiweddaraf Dylan Hughes, cyn-aelod o Radio Luxemburg, yw’r pumawd o Aberystwyth. Mae’r band yn canu yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Yn ôl enillydd y llynedd, y band pop arbrofol Rogue Jones, mae ennill y Wobr yn cynnig hwb o ran enw ac arian i artistiaid, ac yn anrhydedd fel cydnabyddiaeth gan eu cyfoedion.

Mwy o albyms Cymraeg erbyn hyn

“O’m safbwynt i mae bob amser yn ddifyr gweld faint o albyms gan artistiaid Cymraeg sy’n cyrraedd y rhestr fer, ac mae’n teimlo fel petai hynny wedi cynyddu’n raddol dros y blynyddoedd,” meddai Owain Schiavone, golygydd Y Selar, wrth golwg360.

“Mae hyn i’w groesawu, wrth gwrs, ac yn fy marn i mae’n arwyddocaol faint o albyms Cymraeg sydd wedi ennill y wobr dros y blynyddoedd – Gwenno, Adwaith ddwywaith, The Gentle Good ac, wrth gwrs, Rogue Jones y diweddaraf gyda Dos Bebés llynedd.

“Mae yna albyms Cymraeg ardderchog ar y rhestr fer eleni, ac mae’n driawiadol faint o sylw mae sawl un o’r rhain wedi’i ennyn gan y cyfryngau cerddorol y tu hwnt i Gymru.

“Ond y peth arall trawiadol ydy’r amrywiaeth cerddorol sydd ar y rhestr o ran y recordiau Cymraeg, a’r gweddill hefyd – mae’n adlewyrchu’r gyfoeth o gerddoriaeth sy’n dod allan o Gymru ar hyn o bryd, a does dim amheuaeth fod y Wobr Gerddoriaeth Gymreig wedi bod yn llwyddiannus o ran tynnu sylw i hynny gyda’r cyfryngau Prydeinig a rhyngwladol dros y blynyddoedd.”

Bydd yr albwm buddugol yn gael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig, wedi’i chyflwyno gan Siân Eleri yng Nghanolfan y Mileniwm ar Hydref 8.

Mae tocynnau i’r digwyddiad ar gael ar wefan swyddogol y Wobr, am £10 yr un neu £8 i bobol dan 30 oed.