Mae rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn wedi cael ei chyhoeddi.

Eleni, mae’r rhestr fer yn cynnwys albymau gan artistiaid megis Pys Melyn, Cowbois Rhos Botwnnog, Meinir Gwilym a Gwilym.

Bwriad y wobr, sy’n cael ei threfnu rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru, yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg.

Mae’r wobr yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed eleni, ac mae rhai o’r cyn-enillwyr yn cynnwys Pedair, Mared, Gwenno a Sŵnami.

The Gentle Good enillodd y gystadleuaeth gyntaf yn 2014, a bydd yn gobeithio am lwyddiant eto ddegawd yn ddiweddarach.

Panel o feirniaid – Gruffudd Jones, Tomos Jones, Gwenno Morgan, Keziah O’Hare, Mared Thomas ac Owain Williams – sydd wedi dewis a dethol eu hoff gerddoriaeth, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.

Yr albymau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw:

Amrwd – Angharad Jenkins a Patrick Rimes

Bolmynydd – Pys Melyn

Caneuon Tyn yr Hendy – Meinir Gwilym

Dim dwywaith – Mellt

Galargan – The Gentle Good

Llond Llaw – Los Blancos

Mynd â’r tŷ am dro – Cowbois Rhos Botwnnog

Sŵn o’r stafell arall – Hyll

Swrealaeth – M-Digidol

Ti ar dy ora’ pan ti’n canu – Gwilym

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ddydd Gwener, Awst 9.