Mae canol trefi ledled Cymru wedi elwa ar fuddsoddiad gwerth £110 miliwn diolch i’r rhaglen Trawsnewid Trefi – rhaglen adfywio canol trefi Llywodraeth Cymru. Yn sgil ei chyhoeddi y llynedd, mae’r gronfa Trawsnewid Trefi yn bodoli i adeiladu cyfleusterau newydd, cynaliadwy; adnewyddu adeiladau hanesyddol adfeiliedig; a dod o hyd i ddefnydd newydd ar gyfer tir nas defnyddir mewn trefi ledled Cymru – gyda’r nod o greu canol trefi bywiog a chynaliadwy y mae pobol am fyw, gweithio, chwarae a dysgu ynddyn nhw.
Dyma bum prosiect adfywio arloesol sydd eisoes wedi elwa ar y rhaglen Trawsnewid Trefi:
-
Y Monty Club, Y Drenwydd
DDOE: Clwb cymdeithasol poblogaidd Broad Street a oedd yn cael ei redeg gan y gymuned ond a aeth â’i ben iddo.
Y Monty Club cyn adnewyddu. Cydnabyddiaeth: Y Monty Club
HEDDIW: Gofod digwyddiadau amlbwrpas ar gyfer cyfarfodydd grŵp a gweithgareddau cymunedol lleol, a gweithdai Busnes Cymru.
Ystafell Bŵl Y Monty Club. Cydnabyddiaeth: Y Monty Club.
Derbyniodd Cyngor Sir Powys gyllid drwy’r Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo Canol Trefi yng Nghanolbarth Cymru. Roedd hyn yn agored i holl berchnogion eiddo mewn canol trefi yn y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu, Llanbedr Pont Steffan a Thregaron.
Yn y Drenwydd, rhoddwyd cyllid i nifer o brosiectau, gan gynnwys un o asedau mwyaf Broad Street – Y Monty Club.
Roedd y trawsnewidiad haeddiannol yn cynnwys popeth o adnewyddu’r brif ystafell ddigwyddiadau ac ardal y bwrdd pŵl, i foderneiddio yn gyffredinol y cyfleusterau ehangach.
Mae adfywio’r Monty Club yn rhan o fuddsoddiad Trawsnewid Trefi ehangach gwerth £4m, sy’n cefnogi amrywiaeth o brosiectau ledled Powys gwerth £7.9m.
2. Costigans, Y Rhyl
DDOE: Tafarn drefol ger Gorsaf y Rhyl. Fe’i difrodwyd yn rhannol a’i gadael yn adfeilion ar ôl tân yn 2008.
Costigans cyn adnewyddu. Delwedd drwy garedigrwydd Cyngor Sir Ddinbych
HEDDIW: Canolfan gydweithio ar gyfer entrepreneuriaid a busnesau bach.
Mynedfa llawr gwaelod Costigans. Delwedd drwy garedigrwydd Cyngor Sir Ddinbych
Yn dilyn buddsoddiad gwerth £331,000 gan y rhaglen Trawsnewid Trefi, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, mae gan yr hen dafarn bellach lety ar gyfer hyd at ugain o fusnesau yn ogystal â gofod ar gyfer digwyddiadau a chaffi. O dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, y gobaith yw y bydd y prosiect adfywio yn annog mwy o fusnesau newydd i sefydlu eu hunain yn y Rhyl.
3. Goodsheds, Y Barri
DDOE: Dociau adfeiliedig y Barri, cynwysyddion llongau heb eu defnyddio ac adeilad rheilffordd Fictoraidd gwag.
Dociau’r Barri yn yr 1980au. Cydnabyddiaeth: Prosiect Archif Mary Gillham, Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWBReC).
HEDDIW:
Goodsheds. Cydnabyddiaeth: Tony King Architects Ltd.
Dyma fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg. Mae’r Goodsheds yn ddatblygiad defnydd cymysg gwerth £9m+ sy’n cynnwys swyddfeydd modern, busnesau bwyd, diodydd a manwerthu annibynnol, campfa awyr agored, llety rhent moethus a thai cymdeithasol newydd sbon a ddarperir gan y Gymdeithas Dai, Newydd. Yn dilyn buddsoddiad gwerth £500,000 gan y rhaglen Trawsnewid Trefi hyd yma, mae’r lleoliad wedi’i gynllunio i ategu Stryd Fawr y Barri sydd eisoes yn brysur.
4. Datblygiad Llys Cadwyn, Pontypridd
DDOE: Hen safle canolfan siopa Cwm Taf yng nghanol tref Pontypridd.
Hen safle canolfan siopa Cwm Taf yng nghanol tref Pontypridd. Cydnabyddiaeth: Cyngor Rhondda Cynon Taf
HEDDIW: Tri adeilad wedi’u cynllunio gan bensaer, sy’n cynnwys cyfleusterau busnes a hamdden cymunedol modern. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi sefydlu ei bencadlys newydd yn ddiweddar yn 3 Llys Cadwyn ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu gweithio o bell i’w chyflogeion ar y safle.
Datblygiad Llys Cadwyn. Cydnabyddiaeth: Cyngor Rhondda Cynon Taf
Yn dilyn buddsoddiad gwerth £10m gan y rhaglen Trawsnewid Trefi – a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop – trawsnewidiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf adeiladau canolfan siopa adfeiliedig Pontypridd yn lleoliad ar gyfer tri adeilad newydd sbon – sy’n cynnwys llyfrgell 21ain ganrif, cyfleusterau swyddfa modern, canolfan hamdden a ffitrwydd, a gofod ar gyfer allfeydd bwyd a diod.
5. Eglwys Sant Ioan, Treforys, Abertawe
HEDDIW: Eglwys restredig Gradd II – a gadawyd yn wag ers y flwyddyn 2000.
Eglwys Sant Ioan yn yr 1930au. Cydnabyddiaeth: Clwb Camera Treforys
HEDDIW: Cymeradwywyd cynlluniau adnewyddu i drosi adeilad o’r 19eg ganrif yn lle byw hyblyg.
Eglwys Sant Ioan yn 2020. Cydnabyddiaeth: Andrew Shipley
Gyda £142,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn mynd tuag at y prosiect, mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn bwriadu adnewyddu’r eiddo nas defnyddir. Heb golli ei thu allan traddodiadol, bydd y llawr gwaelod yn gartref i ofod cydweithio, oriel annibynnol a chaffi, tra bydd y lloriau uchaf yn cael eu trawsnewid yn fflatiau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: “Mae’r rhaglen Trawsnewid Trefi yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adfywio canol trefi Cymru er budd cymunedau lleol — felly mae’n wych gweld llwyddiant prosiectau adfywio sydd wedi’u cwblhau hyd yma ac rwy’n edrych ymlaen at weld gwelliannau pellach i drefi eleni.”