Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Hwyl dros hanner tymor yr Hydref gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

 

O ardaloedd chwarae naturiol a llwybrau sy’n addas i deuluoedd, i weithgareddau wedi eu ysbrydoli gan Nos Galan Gaeaf a’r cynhaeaf, mae llu o anturiaethau i’r holl deulu yn eich aros ar safleoedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yr hanner tymor hwn.

 

Gogledd Cymru

Tŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn

Dewch i deimlo’r dail yn crensian dan eich traed wrth ichi archwilio’r ardd odidog hon ar lannau’r Fenai. Beth am gael hwyl yn yr ardal chwarae, gwneud pei yn y gegin fwd neu ddringo i fyny at y tŷ pen coeden. A chofiwch gadw golwg am wiwerod coch yn casglu mes.

Gardd Bodnant, Conwy

Yr Hydref hwn, bydd Gardd Bodnant yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed. I ddathlu’r digwyddiad, rhwng 19 Hydref a 3 Tachwedd byddwn yn cynnal gweithgareddau, gemau parti awyr agored a llwybr ‘bocsys pen-blwydd’ y gallwch chwilio amdanyn nhw a’u hagor ar hyd y ffordd. Cofiwch adael eich neges ben-blwydd arbennig eich hun ar gyfer Gardd Bodnant ar y cerdyn pen-blwydd mawr dan y Bwa Tresi Aur.

 

Castell a Gardd Penrhyn, Bangor

Ymunwch â’r bwganod brain i fwynhau rhywfaint o hwyl y cynhaeaf wrth i’r pwmpenni gyrraedd ar gyfer dathlu Nos Galan Gaeaf. Ewch am dro i’r gegin fwd, gafaelwch mewn llond llaw o ddail ac ewch ati i baratoi gwledd y cynhaeaf, cyn archwilio’r ddwy ardal chwarae neu’r castell crand sy’n deillio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

Neuadd a Gardd Erddig, Wrecsam

Cewch lond lle o hwyl yn Erddig, gyda gweithgareddau’n ymwneud â’r cynhaeaf a Nos Galan Gaeaf. Cymerwch ran mewn ras berfa, rhowch gynnig ar daflu bagiau ffa neu palwch am gowrdiau. Ar rai diwrnodau, gallwch fwynhau gwneud patrymau â dail, gwneud bwgan brain neu roi cynnig ar grefftau awyr agored bwganllyd. Cofiwch fynd i Ffau’r Blaidd, yr ardal chwarae naturiol, lle gallwch dreulio oriau’n siglo ac yn balansio.

 

Castell a Gardd y Waun, Wrecsam

Profwch pa mor ddewr ydych chi trwy gymryd rhan yn her y marchogion. Ewch i nôl taflen i’r Swyddfa Docynnau a chymerwch ran yn yr her ganoloesol hunanarweiniad o amgylch y castell. Ar 28 a 31 Hydref, bydd y storïwr Jake Evans yn ymweld â ni; ac ar 26 a 30 Hydref, gallwch greu eich anghenfil eich hun gyda chlai.

 

 

Canolbarth Cymru

Castell a Gardd Powis, Y Trallwng

Dilynwch y llwybr pwmpenni Calan Gaeaf (heb risiau) a chyfrwch faint o bwmpenni ofnus y gallwch ddod o hyd iddyn nhw yn yr ardd. Cadwch olwg am fywyd gwyllt, yn cynnwys adar ysglyfaethus a gwiwerod yn casglu cnau. Mentrwch i mewn i’r castell canoloesol i chwilio am bwmpenni wedi’u crosio neu ymunwch â’r sesiwn storïau bwganllyd yn Ystafell yr Adar.

 

Llanerchaeron, Ceredigion

Dewch am dro i fuarth traddodiadol Llanerchaeron i gyfarfod â’r anifeiliaid ac i ddarganfod cynhaeaf yr hydref. Hefyd, beth am fynd i ysbryd Nos Galan Gaeaf a dilyn llwybr y bwganod brain? Ar ddiwrnodau glawog, bydd ystafell chwarae’r Stablau ar agor lle bydd modd cael llond lle o hwyl gyda’r teulu.

 

De Cymru

Tŷ Tredegar, Casnewydd

Os hoffech nesáu at natur, Tŷ Tredegar yw’r lle perffaith yr hydref hwn. Ewch i nôl Pecyn Antur i’r ganolfan ymwelwyr a defnyddiwch y binocwlars, y chwyddwydr a’r cwmpas i hwyluso eich anturiaethau hydrefol. I’r rhai creadigol yn eich plith, beth am gymryd rhan mewn gweithdy clai creadigol â naws hydrefol? Rhwng 28-31 Hydref, gallwch ddwyn ysbrydoliaeth gan ddail yr hydref a chreu eich powlen fach eich hun gyda chlai. Darperir yr holl ddeunyddiau yn y pecyn (a fydd yn costio £4). Ewch i’r ganolfan ymwelwyr i gael manylion – ni fydd angen trefnu lle ymlaen llaw.

 

Gerddi Dyffryn, Caerdydd

A ydych yn ddigon dewr i droedio llwybr natur Nos Galan Gaeaf Gerddi Dyffryn yr hanner tymor hwn?  Dewch draw i ddysgu am yr holl bryfetach sy’n byw yn y gerddi, lle gallwch gymryd rhan mewn saith o weithgareddau ar y thema ‘bwystfilod bach’. A allwch daflu smotiau at y fuwch goch gota? A wnewch chi droi’r gragen a derbyn her? Neu beth am wisgo’r gogls pryfed i weld sut brofiad yw bod yn bryfyn?

 

Dinefwr, Sir Gaerfyrddin

Dewch i archwilio hanes safle ysblennydd Dinefwr trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol ac adrodd straeon swyngyfareddol. Gwisgwch amdanoch ac ewch ati i greu eich storïau eich hun yn Theatr y Coetir yn yr Ystafell Fwyta a gwnewch gysgodion bwganllyd yn nrysfa’r Tŷ Golchi. Yna, beth am fynd i ardal chwarae’r Iard Dderw – mae’n lle gwych i chwarae’n greadigol.

 

Bydd ein gweithgareddau hanner tymor yn dechrau ar 26 Hydref, oni nodir yn wahanol. Bydd yn rhaid talu’r tâl mynediad arferol (mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac i blant dan 5 oed). Edrychwch ar y wefan i gael manylion am ddigwyddiadau unigol https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales