Wythnos Hinsawdd Cymru 2022: dweud eich dweud ar sut mae Cymru yn gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

Yn ôl adroddiad gan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd (grŵp annibynnol o arbenigwyr ar draws y DU) mae bron i 60% o’r gostyngiad yn yr allyriadau sydd eu hangen er mwyn i’r DU gyrraedd ei tharged sero net yn debygol o olygu rhyw elfen o newid ymddygiad gan y cyhoedd.

Gall rhai o’r newidiadau hyn fod yn arbennig o heriol, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, sy’n gofyn am weithredu a buddsoddi nawr, tra bod eraill yn ymwneud â thorri arferion sefydledig a normau a gydnabyddir yn eang. Ond bydd y newidiadau hyn hefyd yn dod â manteision enfawr i’n hiechyd, ein cyfoeth a’n lles.

Beth yw’r ffordd orau i lywodraeth a sefydliadau gefnogi’r cyhoedd yn gyffredinol i chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd?; sut mae sicrhau tegwch ac amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas?; a sut gallwn ni wneud newidiadau sy’n amddiffyn y blaned ac yn dod â buddion eraill i’r ffordd rydym ni i gyd yn byw ein bywydau nawr ac yn y dyfodol?

Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn a’u hateb pan fydd Wythnos Hinsawdd Cymru yn dychwelyd yn ddiweddarach y mis hwn (21 – 25) a rôl cymdeithas wrth weithredu ar newid yn yr hinsawdd fydd ar frig yr agenda. Mae trefnwyr yn annog sefydliadau sy’n gweithio gyda’r cyhoedd i gofrestru ar gyfer y gynhadledd rithwir am ddim yn www.wythnoshinsawdd.llyw.cymru a chymryd rhan.

Gwahoddir ceisiadau hefyd gan sefydliadau sydd am gynnal digwyddiadau ymylol, yn ystod yr wythnos a thu hwnt tan 14 Rhagfyr, i gynnwys aelodau o’r cyhoedd mewn sgyrsiau ar newid yn yr hinsawdd.

Cynhadledd rhithwir – beth sy’n digwydd?

Bydd y gynhadledd rithwir tri diwrnod (21 -23 Tachwedd) yn cael ei hagor yn swyddogol gan Julie James MS, Gweinidog Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd a fydd yn cyffwrdd â Strategaeth ddrafft newydd ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Gweithredu ar Newid yn yr Hinsawdd, sydd ar hyn o bryd yn y broses ymgynghori.

Ar Ddiwrnod 3 bydd y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Lee Waters AS, hefyd yn cadeirio sesiwn ar Drafnidiaeth.

Bydd siaradwyr o lywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol, busnes a diwydiant, y byd academaidd, yn ogystal ag elusennau a sefydliadau cymunedol, yn trafod y camau brys sydd eu hangen i leihau ein hallyriadau carbon ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd a chreu mwy o wytnwch yn ein cymunedau drwy newidiadau mewn ein patrymau tywydd.

Bydd sesiynau’n archwilio’r heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan ddatgarboneiddio diwydiant a’n cartrefi, yn arddangos prosiectau llwyddiannus gartref a thramor ac yn ystyried y sgiliau y bydd eu hangen ar ein harweinwyr a’n gweithlu yn y dyfodol. Bydd y siaradwyr yn cynnig rhai syniadau a datrysiadau arloesol, o gynlluniau ynni cymunedol, mentrau atgyweirio ac ailddefnyddio ysbrydoledig ac ailddyrannu’r gofod ar rai o’n ffyrdd, i groesawu newid o fewn ein cymunedau artistig a ffydd a chynyddu gallu pobl i ofalu am ddyfodol ein hamgylchedd.

Bydd y rhaglen rithwir yn rhad ac am ddim i’w gwylio’n fyw neu ‘yn ôl y galw’ drwy wefan digwyddiadau newydd eleni. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys ‘Wal Addewidion’ rhithiwr, lle gall sefydliadau ac unigolion wneud addewidion personol am gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

“siarad am newid yn yr hinsawdd yn bwysig”

Ychwanegiad newydd ar gyfer 2022 yw rhaglen ymylol Wythnos Hinsawdd Cymru , lle gall sefydliadau wneud cais i gynnal digwyddiadau cymunedol, a gynlluniwyd i annog pobl nad ydynt efallai eisoes yn cymryd rhan weithredol mewn sgyrsiau yn ymwneud â hinsawdd i ddod at ei gilydd a thrafod y materion pwysig sy’n wynebu ein cymdeithas. Mae cyllid ar gael i ymgeiswyr sy’n gallu bodloni’r meini prawf perthnasol ar gyfer digwyddiadau ymylol, ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru ei hun a hyd at 14 Rhagfyr .

“Cafodd Wythnos Hinsawdd Cymru ei sefydlu mewn ymateb i adborth gan ein partneriaid yn Nhîm Cymru fod siarad am newid yn yr hinsawdd yn bwysig”, meddai Julie James.

“Mae llawer o waith gwych eisoes wedi’i wneud yng Nghymru i helpu i leihau ein hallyriadau a bodloni ein rhwymedigaethau hinsawdd, ond ni fyddwn ond yn llwyddo os gwneir ymdrech genedlaethol ar draws y sector cyhoeddus, diwydiant a chan y cyhoedd yn gyffredinol.

“Rwy’n croesawu’r ychwanegiad at y rhaglen digwyddiadau ymylol eleni, gan y bydd yn rhoi cyfle newydd i gymunedau ac unigolion gymryd rhan yn y sgwrs ar newid hinsawdd. Mae hwn yn gyfle i bobl ledled Cymru ddweud eu dweud ar y polisïau y bydd eu hangen yn y dyfodol i gefnogi ein trawsnewidiad i gymdeithas wyrddach a thecach – ac rwy’n benderfynol y byddwn yn parhau â’r ddeialog hon yn yr wythnosau a’r misoedd pwysig i ddod. ”

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd noddi Youth COP 2022 (8 a 10 Tachwedd yng Nghaerdydd), syniad a ddechreuodd yn Glasgow y llynedd ar ôl i gynrychiolwyr o bobl ifanc o Gymru deithio i’r Alban i gymryd rhan yn yr uwchgynhadledd leol ar newid yn yr hinsawdd. Roedd Youth COP wedi galluogi mwy na 120 o ddisgyblion ysgol o bob rhan o Gymru i gymryd rhan mewn trafodaethau am newid yn yr hinsawdd a chwrdd â gwahanol sefydliadau sy’n ymwneud â mentrau newid yn yr hinsawdd, gartref a thramor.

I gael rhagor o wybodaeth am yr wythnos, ewch i’r wefan Wythnos Hinsawdd Cymru 2022.