Catrin yn byw ei breuddwyd

Cwrs TAR rhan amser y Brifysgol Agored yng Nghymru yw’r unig un o’i fath ac mae ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg

Catrin Williams

Ers bod yn blentyn, roedd Catrin Williams eisiau bod yn athrawes. Dyna’r unig swydd oedd ar ei meddwl.

Ac, eto, am amser hir, roedd yna rwystrau yn ei ffordd. Dim ond yn awr, flynyddoedd ar ôl iddi raddio, y mae’r freuddwyd yn dod yn wir.

Ac mae’r diolch am hynny i gwrs Tystysgrif Addysg (TAR) rhan amser y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Be newidiodd bopeth oedd fod un o daflenni’r Brifysgol wedi dod trwy’r drws un diwrnod. Wrth ei ddarllen, roedd Catrin yn gwybod bod yr ateb ganddi.

Bellach, mae ar ei blwyddyn gynta’n hyfforddi i fod yn athrawes gynradd, yn gweithio gyda phlant ym mlynyddoedd 3 a 4, ac wrth ei bodd.

“Mae’r cwrs yn siwtio fy ffordd o fyw i’r dim,” meddai’r wraig ifanc o’r Bala a adawodd swydd mewn busnes gwerthu tai a symud gyda’i gŵr a’i phlant i ardal Rhuddlan er mwyn cael mwy o gyfleoedd ar gyfer ymarfer dysgu mewn ysgolion Cymraeg. “Ro’n i wedi dweud fy mod i eisiau gwneud cwrs TAR, ond tan i bamffled y Brifysgol gyrraedd, do’n i ddim yn gwybod sut.”

Ar ôl graddio mewn Hanes o Brifysgol Aberystwyth, roedd bod heb drwydded yrru wedi ei hatal rhag gwneud hyfforddiant dysgu traddodiadol ac, ar ôl hynny, roedd pob math o rwystrau rhag dilyn llwybr TAR, gan gynnwys dechrau teulu a chostau gofal plant.

Roedd y costau hynny’n golygu bod gwneud cwrs llawn amser ymhell tu hwnt i’w chyrraedd. Bellach, gyda’i dwy ferch fach yn dechrau ysgol ac ysgol feithrin, mae natur hyblyg, gyfleus cwrs y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi agor y drws.

“Roedd hi’n hawdd iawn cofrestru,” meddai. “O fewn mis ro’n i wedi gwneud bob dim. Roedd angen dewis rhwng y cwrs rhan amser neu fod yn gyflogedig mewn ysgol a, gan nad ydi’r fechan ond yn treulio dwyawr bob dydd yn y cylch meithrin, dewis y cwrs rhan amser wnes i.”

Mae hynny’n golygu mynd i’r ysgol ddwywaith neu dair yr wythnos, gwneud seminar bob pythefnos ar-lein, cyfarfod unwaith y mis gyda thiwtor personol y Brifysgol, cyfarfod unwaith yr wythnos gyda mentor yn yr ysgol a gwneud y gwaith academaidd ar-lein.

“Mae yna ddigonedd o gefnogaeth ac mae modd penderfynu pa mor araf neu gyflym yr ydech chi eisio gwneud y modiwlau ac ym mha drefn. Mae yna lot o waith darllen ond ydech chi’n gallu pêsio eich hunan.”

Yn ei blwyddyn gynta’, cyflwyno gwersi unigol y mae Catrin; yn yr ail, fe fydd disgwyl iddi wneud bloc o chwe wythnos o wersi, yn union fel y bydd angen iddi mewn swydd.

A hithau’n dilyn y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, mae yna hyblygrwydd o ran gallu ieithyddol hefyd – mae nifer sydd yn yr un grŵp tiwtorial â Catrin yn dysgu’r iaith wrth fynd yn eu blaenau. Mae hithau’n cael digon o gyfle i roi gwersi mewn pynciau sy’n llai cyfarwydd iddi hi, fel un wers fathemateg gofiadwy…

“Ar y dechrau, doedd dim un o’r plant yn deall be’ oedd ystyr perimedr. Mi wnes i drio creu stori am falwoden yn mynd o gwmpas cae ac un arall am drio ffitio bar o siocled i mewn i focs bwyd. Erbyn y diwedd, roedden nhw i gyd yn deall ac o’n i’n falch ofnadwy.”

Mae ei theulu’n falch ohoni hithau a Jess, y ferch hyna’, eisoes yn dweud bod ei mam yn athrawes go iawn. Mae wedi dechrau chwarae ysgol fach a dweud y bydd hithau’n athrawes … yn union fel yr oedd Catrin yn blentyn.

Cwrs TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru – yr ateb cyfleus 

Cwrs TAR rhan amser y Brifysgol Agored yng Nghymru yw’r unig un o’i fath ac mae ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae modd dewis rhwng cwrs llawn amser, cyflogedig, neu gwrs rhan amser i ffitio o amgylch gofynion eraill, fel gofal plant.

Gwneud cwrs cynradd y mae Catrin Williams ond mae’r un ddarpariaeth yn union ar gael mewn ysgolion uwchradd.

Mae’r cwrs yn cyfuno’r profiad ymarferol o ddysgu gydag astudio’r cefndir academaidd a’r cyfan ar gael ar-lein yn hwylustod eich cartref.

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn awyddus iawn hefyd i ddenu rhagor o athrawon sydd am ddysgu Cymraeg fel pwnc.

Cwrs TAR y Brifysgol Agored – y camau cyntaf 

Mae’r flwyddyn newydd yn gyfle ardderchog i feddwl am gyfeiriad newydd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gwrs TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru ar-lein: openuniversity.co.uk/cymru-tar 

Mae diwrnod agored ar-lein yn cael ei gynnal 3 Chwefror eleni. Trwy gyfarfod awr min nos ar Microsoft Teams, bydd modd siarad gyda thiwtoriaid a myfyrwyr am y gwaith a’r profiad:

oupgceeventfeb.eventbrite.co.uk