12 ffordd o dreulio’ch diwrnod yng Nghymoedd De Cymru

Diolch i fuddsoddiad o £7 miliwn drwy PRhC, mae gan deuddeg ‘Canolfan Ddarganfod’ ar draws y rhanbarth gyfleusterau newydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Dros y deunaw mis diwethaf, mae deuddeg ‘Canolfan Ddarganfod’ ar draws Cymoedd De Cymru wedi derbyn cyfran o’r £7m o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfleusterau newydd a gwelliannau i safleoedd ecogyfeillgar.

Mae’r cyfan (PRhC) — gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru — sy’n hyrwyddo tirwedd eiconig a phobl y Cymoedd.

O Barc Gwledig Bryngarw ym Mhen-y-bont ar Ogwr i Goedwig Cwmcarn yng Nghaerffili, mae rhai o fannau naturiol a diwylliannol mwyaf gwerthfawr y rhanbarth bellach yn gartref i amwynderau newydd sy’n ystyriol o deuluoedd yn ogystal â gwelliannau i safleoedd sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, gan gynnwys parciau chwarae wedi’u creu o ddeunydd naturiol, canolfannau lles awyr agored a chanolfannau addysg.

Mae safleoedd llawer o ‘Ganolfannau Darganfod’ eraill, y gellir ymchwilio iddynt drwy wefan PRhC, yn cael eu gwella i annog mwy o bobl i brofi manteision iechyd a lles a helpu i ofalu am eu hamgylchedd lleol.

Dyma 12 ffordd y gallwch wneud y gorau o Gymoedd De Cymru — i gyd wrth brofi rhai o’r cyfleusterau newydd sydd ar gael…

 

Ewch i feicio mynydd ym Mharc Gwledig Cwm Dâr

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd, mae’r Parc Beiciau Disgyrchiant newydd sbon, traciau pwmp ac ardal chwarae newydd yn atyniadau ychwanegol gwych i Barc Gwledig Cwm Dâr.Y gobaith yw y bydd y cyfleusterau newydd yn annog mwy o bobl i grwydro’r Cymoedd ar gefn beic a phrofi manteision iechyd a lles gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored.

‘Ond does gen i ddim beic!’ Peidiwch â phoeni — gallwch logi un am y diwrnod neu fwynhau mynd am dro hamddenol o amgylch y llyn yn lle.

Darganfyddwch rôl Cymru yn y Chwyldro Diwydiannol yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon

Yn enwog am gynhyrchu glo a haearn yn y 19eg ganrif, mae Blaenafon yn un o brifddinasoedd treftadaeth ddiwydiannol Cymru. Yn wir, mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon wedi’i henwi’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO am yr union reswm hwn.

Mae Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn dathlu’r hanes cyfoethog hwn drwy arddangosfeydd rhyngweithiol amrywiol — a diolch i gyllid Llywodraeth Cymru drwy raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd, mae darganfod eich ffordd o gwmpas yr amgueddfa bellach yn haws nag erioed, gyda digon o arwyddion newydd i’ch cyfeirio ar hyd y ffordd.

Cerddwch drwy goetiroedd godidog ym Mharc Gwledig Bryngarw

Mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod wedi ariannu nifer o brosiectau ym Mharc Gwledig Bryngarw drwy raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd, gan gynnwys llwybrau pren newydd sbon yn ardal goetir gwlyb y safle. Ynghyd â harddwch naturiol y Parc, dyma’r lle perffaith ar gyfer mynd am dro tawel un prynhawn a theimlo’n un â natur.

Mae prosiectau eraill a ariennir, a weithredir mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnwys canolfan addysg a lles newydd. Fe’i gelwir ‘Y Nyth’, ac mae’r ganolfan yn cynnwys ystafell ddosbarth a chegin pwrpasol i’w llogi at ddibenion addysgol a phreifat; lloches feiciau newydd gyda tho sedwm gwyrdd i gynyddu bioamrywiaeth; yn ogystal ag offer chwarae awyr agored newydd ar gyfer teuluoedd — wedi’u gwneud o ddeunyddiau naturiol yn unig.

Dewch i brofi ysblander caer fwyaf Cymru Castell Caerffili

Mae’r tirnod eiconig yng nghanol Caerffili yn sefyll dros y dref gydag arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol cyfoethog. Defnyddiwyd cyllid Llywodraeth Cymru drwy raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd i ddatblygu’r dirwedd naturiol a choridorau natur sy’n cysylltu’r safle treftadaeth â llwybrau lleol.

Ewch i badlfyrddio yn Rhodfa Coedwig Cwmcarn

Gydag ystod eang o weithgareddau awyr agored ar gael drwy gydol y flwyddyn, mae Rhodfa Coedwig Cwmcarn yn ganolbwynt i’r Cymoedd ar gyfer popeth sy’n ymwneud â natur ac antur. Gyda thirwedd naturiol anhygoel, maes chwarae antur i blant, llynnoedd, coedwigaeth a llwybrau beicio mynydd ar ei hyd, mae’n sicr yn werth ymweld ag ef.

Yn fwy na hynny, mae cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi cyflwyno sawl cynllun i adnewyddu’r safle dros y 2 flynedd ddiwethaf, gan gynnwys: gwella’r Ganolfan Ymwelwyr a’r Caffi, datblygu llwybrau cerdded a beicio mynydd a hyd yn oed gosod toiledau compostio.

Mwynhewch ginio i’w gofio gyda golygfa ym Mharc a Chastell Cyfarthfa

Ewch i ‘Canolfan’, Canolfan Ymwelwyr a Chaffi newydd sbon Parc a Chastell Cyfarthfa am sleisen o gacen a phaned. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd, mae’r cyfleuster newydd yn cynnwys golygfeydd gwych, gan ei wneud yn lle perffaith ar gyfer cinio hamddenol.

Camwch yn ôl drwy amser gyda Llwybr Rhithwir Parc Gwledig Llyn Llech Owain

Wedi’i hamgylchynu gan lwybr ceffylau, llwybrau cerdded a’r llyn chwedlonol sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y 1300au, mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain bellach yn gartref i lwybr rhithwir ymdrwythol. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd, mae’r llwybr newydd yn mynd â chi ar daith drwy hanes y safle, gan ei wneud yn lle perffaith i deuluoedd ddysgu a chwarae.

Ewch â’r plant i Ardal Chwarae newydd Parc Bryn Bach

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, a enillwyd drwy raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd, mae Parc Bryn Bach bellach yn gartref i Ardal Chwarae wych i blant o bob oed ei mwynhau.

Ymwelwch â Swltan, y Ferlen Pwll Glo ym Mharc Penallta

Mae Parc Penallta yn gartref i Swltan, y Ferlen Pwll Glo — un o’r cerfluniau pridd ffigurol mwyaf yn y wlad.

Wedi’i amgylchynu gan amgylcheddau naturiol a phyllau hardd, gydag arsyllfa 360 gradd, mae digon o bethau i’w darganfod ac ardaloedd i’w crwydro yn y Ganolfan Ddarganfod hon. Gyda llawer o ddatblygiadau cyffrous wedi’u cynllunio ar gyfer 2022, cewch ddarganfod mwy yn y man…

Dewch o hyd i fadfall ddŵr gribog, sy’n greadur dan fygythiad, yng Ngwarchodfa Natur Parc Slip

Mae dros fil o rywogaethau bywyd gwyllt a rhai o blanhigion mwyaf prin Cymru yng Ngwarchodfa Natur Parc Slip, sydd i’w gweld ar draws pedwar ar ddeg cilometr o lwybrau cerdded wedi’u nodi, llwybrau beicio sy’n addas i deuluoedd a llwybr ceffylau.

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi gweithio gyda phartneriaid i osod man picnic newydd a sied feiciau â tho gwyrdd yn y Parc, i annog mwy o bobl i ymweld a chysylltu â natur.

Dewch i drochi ym Mharc a Lido Ynysangharad

Gyda llwybrau wedi’u hadnewyddu a goleuadau Parc yn dilyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd, mae Parc a Lido Ynysangharad yn gartref i brif bwll awyr agored Cymru a pharc chwarae antur â nodweddion diwydiannol, ar gyfer teuluoedd, nofwyr ymroddgar a nofwyr cymdeithasol o bob oedran a gallu i’w mwynhau.

Mwynhewch brynhawn llawn antur yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan

Wedi’i amgylchynu gan lwybrau beicio mynydd, llwybrau cerdded a’r awyr agored, Parc Coedwig Afan yw’r lle perffaith i dreulio’r prynhawn os ydych chi wrth eich bodd ag anturiaethau.

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd, mae gan Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ardal chwarae antur newydd sbon erbyn hyn, a phan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, bydd yn elwa o bwyntiau cysylltu camperfans newydd yn ogystal â thoiled wedi’i adnewyddu a chawodydd ym maes parcio’r Ganolfan Ymwelwyr. 

 

Yn ôl Phil Lewis, Arweinydd Parc Rhanbarthol y Cymoedd:

“Mae ein deuddeg canolfan ddarganfod yn gynrychiolaeth wych o Gymoedd De Cymru — natur gymunedol, harddwch.

“Gan ddefnyddio dull Cymoedd cyfan, rydym yn falch o weithio’n agos gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth i gydnabod a manteisio i’r eithaf ar botensial asedau naturiol a diwylliannol Cymoedd De Cymru i sicrhau buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i gymunedau lleol a chenedlaethau’r dyfodol.

Rwy’n ddiolchgar i bawb sy’n ymwneud â’r gwelliannau yn gyffredinol ac rwy’n gobeithio y bydd pobl y Cymoedd yn parhau i fwynhau’r lleoedd arbennig hyn yn 2022 a thu hwnt.

“Rwy’n hyderus y bydd yr holl welliannau hyn, yn ogystal â’n mentrau a’n prosiectau cymunedol eraill — fel Cynllun Gwarcheidwaid PRhC a gyflwynir gan Groundwork Cymru — yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o helpu ein cymunedau a’n hymwelwyr i ddeall ein hamgylchedd naturiol yn well a sut rydym yn gwneud y mwyaf ohono fel rhan o’n bywydau pob dydd.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r Canolfannau Darganfod a grybwyllir uchod, ewch i valleysregionalpark.wales