Mae’r heddlu wedi arestio dwsinau o ymgyrchwyr amgylcheddol ar ôl iddyn nhw atal traffig yn un o ddinasoedd mwyaf Awstralia.

Y brotest oedd y diweddaraf gan y grŵp Extinction Rebellion yng nghanol dinas Brisbane.

Yn ôl yr awdurdodau lleol, mae 72 o bobol wedi cael eu cyhuddo yn dilyn y digwyddiad, a oedd yn cynnwys tua 300 o brotestwyr.

Maen nhw’n ychwanegu bod oedran y protestwyr yn amrywio o 18 i 73 oed, ac maen nhw’n wedi cael eu cyhuddo o droseddau’n ymwneud ag atal yr heddlu, anwybyddu cyfarwyddiadau cyfreithiol, a bod yn niwsans cyhoeddus.

Yn ôl Laura Lucardie, un o’r ymgyrchwyr, roedd atal teithwyr yn un o brif amcanion eu hymgyrch yn nhalaith Queensland, sy’n enwog am ei glofeydd.