Mae Sony yn galw ar gwsmeriaid i ddychwelyd 1.6 miliwn o setiau teledu LCD ar draws y byd, oherwydd nam sy’n gwneud i’r setiau or-boethi.

Mae’r cwmni wedi derbyn 11 cwyn yn Japan yn ymwneud â setiau’n gor-boethi, mwg yn dod ohonyn nhw, a darnau’n toddi, er nad oes neb, hyd yn hyn, wedi cael niwed oherwydd y nam.

Y setiau sydd wedi cael eu galw yn ôl yn Japan yw’r Bravia KDL-40X5000, KDL-40X5050, KDL-40W5000, KDL-40V5000 a KDL-40V3000.

Mae’r darn diffygiol hefyd wedi cael ei ddefnyddio mewn setiau sydd wedi cael eu gwerthu tu allan i Japan. Ond mae Sony yn dweud nad ydyn nhw wedi derbyn cwynion am broblemau tebyg tu allan i Japan hyd yn hyn.

Bydd y cwmni nawr yn cyhoeddi gwybodaeth mwy lleol i gwsmeriaid er mwyn dychwelyd y setiau.