Ctriad Masin
Bu farw’r ymladdwr gwrth-Gomiwnyddol dadleuol, Ctirad Masin, yn 81 mlwydd oed. Roedd wedi bod yn byw yn yr Unol Daleithiau ers degawdau, a bu farw mewn cartref henoed yn Cleveland, Ohio.

Roedd Mr Masin, ei frawd Josef, a Milan Paumer, yn rhan o gell wrthryfelgar wedi i’r Comiwnyddion ddod i rym yn 1948 yng Tsiecoslofacia.

Fe laddon nhw ddau heddwas tra’n ceisio dwyn arfau o swyddfa heddlu, ac fe laddon nhw hefyd ddyn arall yn ystod lladrad arfog pan oedden nhw’n trio codi ariad ar gyfer eu hymgyrch.

Yn 1953, fe ddiangon nhw i’r Gorllewin, gan ladd tri swyddog heddlu yn Nwyrain yr Almaen wrth ddianc. Roedd degan o filoedd o swyddogion heddlu yn chwilio amdanyn nhw.

Fe gyrhaeddodd y tri yr Unol Daleithiau, ac fe fuon nhw’n gwasanaethu ym myddin y wlad.