Milwyr llywodraeth yr Wcrain Llun: PA
Yn nwyrain yr Wcráin, mae o leiaf 8 o bobol wedi eu lladd yn ystod gwrthdaro rhwng milwyr y llywodraeth a gwrthryfelwyr sy’n cael eu cefnogi gan Rwsia.

Bu 200 o lowyr yn sownd o dan y ddaear am rai oriau oherwydd y gwrthdaro, yn ôl adroddiadau gan y ddwy ochr.

Yn ôl gwrthryfelwyr yn Donetsk cafodd is-orsaf bŵer ei ddifrodi yn ystod y brwydro gan dorri’r cyflenwad trydan i bwll glo Zasyadko yn Donetsk.

Erbyn amser cinio dydd Mawrth, roedd 152 o’r 200 o’r dynion yno wedi cael eu hachub gan yr awdurdodau lleol.

Yn ôl swyddfa’r wasg llywodraeth yr Wcráin roedd o leiaf tri milwr wedi marw a 20 yn fwy wedi ei niweidio yn dilyn yr ymosodiad ar Avdiivka, tref sydd wedi ei rheoli gan y Llywodraeth.

Cafodd nifer amhenodol o ddinasyddion hefyd eu hanafu, yn ôl swyddfa’r wasg.

Yn  Donetsk, dywedodd asiantaeth newyddion y gwrthryfelwyr bod pedwar o’u gwrthryfelwyr wedi marw a saith wedi’u hanafu dros nos.

Mae llefarydd ar ran Arlywydd Rwsia Vladimir Putin wedi rhoi’r bai ar Lywodraeth yr Wcráin am achosi’r gwrthdaro gan honni ei bod wedi anfon milwyr dros y rheng flaen nos Lun er mwyn ceisio cipio tiriogaeth o ddwylo’r gwrthryfelwyr.