Nouri al-Maliki
Mae Prif Weinidog Irac, Nouri al-Maliki, wedi penderfynu camu o’r neilltu er mwyn gadael i rywun arall geisio ffurfio llywodraeth fydd yn delio â’r argyfwng presennol.

Cafodd Haider Abadi ei enwebu fel olynydd i al-Maliki, ac mae Llywodraeth Prydain wedi ymuno yn yr alwad ar y Prif Weinidog newydd i ffurfio llywodraeth unedig mor fuan â phosib.

Daeth al-Maliki dan bwysau mawr i ymddiswyddo ar ôl methu â delio gyda gwrthryfelwyr Islamic State (IS), sydd yn ceisio sefydlu gwladwriaeth Foslemaidd enfawr yn y Dwyrain Canol.

Roedd pryder hefyd na wnaeth ddigon i gynnwys Mwslemiaid Sunni o fewn y wladwriaeth, sydd wedi cyfrannu at y gwrthryfela.

Cynnig arfogi’r Cwrdiaid

Mae grŵp IS eisoes wedi meddiannu rhannau helaeth o ogledd Irac, gan fygwth lleiafrifoedd fel y Cwrdiaid, Cristnogion a phobl y Yazidi.

Eisoes mae Llywodraeth Prydain wedi awgrymu y byddan nhw’n rhoi arfau i’r Cwrdiaid os ydyn nhw’n gofyn am gymorth i geisio ymladd yn ôl yn erbyn lluoedd arfog IS.

Hefyd mae Ffrainc wedi danfon cyflenwadau milwrol i’r Cwrdiaid, ac mae disgwyl i Ysgrifennydd Tramor Prydain Phillip Hammond alw am fwy o gydweithio rhwng gwledydd Ewrop ar y mater.

Yn y cyfamser mae’n ymddangos fod miloedd o’r bobl Yazidi oedd o dan warchae gan filwyr IS ar fynydd Sinjar wedi llwyddo i ddianc – ond dywedodd arlywydd yr UDA Barack Obama y byddwn nhw’n parhau gyda chyrchoedd awyr yn erbyn IS.

Pôl piniwn golwg360 – a ddylai Prydain ymyrryd yn filwrol yn Irac?