David Cameron
Fe fydd David Cameron yn teithio i Algeria heddiw wrth iddo gymryd camau i fynd i’r afael a’r bygythiad cynyddol gan derfysgwyr yng ngogledd Affrica.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gynnal trafodaethau gyda Phrif Weinidog Algeria Abdelmalek Sellal yn dilyn y gwarchae ar safle nwy yno pan gafodd chwech o Brydeinwyr eu lladd gan filwriaethwyr Islamaidd.

Daw ei ymweliad ar ôl i Brydain gyhoeddi y bydd hyd at 330 o filwyr o Brydain yn rhoi cymorth i luoedd Ffrainc i ymladd gwrthryfelwyr yn Mali.