Mae cwmni ynni SSE wedi cyhoeddi cynnydd o 38% yn ei elw am chwe mis cynta’r flwyddyn i £400 miliwn.
Roedd prisiau biliau ynni cwsmeriaid SSE, neu Southern Electric, Swalec a Scottish Hydro, wedi cynyddu 9% fis diwethaf.
Roedd hefyd wedi cynyddu ei difidend i gyfranddalwyr o 5%.
Mae’r cwmni wedi amddiffyn ei benderfyniad i gynyddu prisiau heddiw gan ddweud bod y farchnad ynni yn parhau’n heriol, a bod costau uwch wedi gorfodi pob un o’r chwe chwmni mawr, heblaw un, i gynyddu biliau ynni.
Mae SSE yn darparu trydan a nwy i 9.6 miliwn o gwsmeriaid.
Dywedodd llefarydd ynni’r Blaid Lafur Caroline Flint na fydd pobl yn deall sut y gall y cwmnïau ynni godi prisiau dros y gaeaf pan mae eu helw eisoes yn cynyddu.