Mae pennaeth Starbucks, Troy Alstead, wedi cael ei holi gan Aelodau Seneddol sy’n ymchwilio i’r dreth sy’n cael ei dalu gan gwmnïau mawr rhyngwladol.

Roedd Troy Alstead wedi gwadu dweud celwydd wrth gyfranddalwyr ynglŷn â chyfrifon y cwmni coffi wrth iddo ymddangos gerbron ASau heddiw.

Yn ôl adroddiadau, nid yw’r cwmni o’r Unol Daleithiau wedi talu treth gorfforaethol yn y DU dros y tair blynedd diwethaf ac yn ôl dogfennau sydd wedi eu rhoi i Dy’r Cwmnïau mae’r cwmni wedi gwneud colled y rhan fwyaf o’r amser ers iddyn nhw ddod i’r Deyrnas Unedig.

Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus, Margaret Hodge sut y gallai hynny fod pan fod datganiadau a welodd y pwyllgor yn dangos bod y cwmni wedi gwneud elw o 15% yn 2007.

Roedd Troy Alstead yn gwadu ei fod yn gwybod unrhyw beth am hynny, gan ddweud mai’r elw cyntaf a wnaeth Starbucks oedd £6 miliwn yn 2006.

Gofynnodd Margaret Hodge iddo pam bod pennaeth y busnes yn y DU, Cliff Burrows, wedi cael ei ddyrchafu i arwain y cwmni yn yr UDA os oedd y busnes yn y DU wedi gwneud colledion o filiynau o bunnau.

Dywedodd wrtho: “Rydych chi wedi bod yn rhedeg y busnes ers 15 mlynedd ac yn colli arian ac eto’n dal i fuddsoddi yma. Dyw hynny ddim yn swnio’n wir.”

Ond mynnodd Tro Alstead ei fod yn dweud y gwir a bod y cwmni wedi gwneud colledion yn y DU.

Mae’r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus hefyd yn holi Matt brittin, prif weithredwr Google, ac Andrew Cecil, cyfarwyddwr polisi cyhoeddus Amazon, yn sgil cyfres o honiadau am daliadau treth cwmnïau rhyngwladol.