Mae cwmni oedd yn gobeithio adeiladu’r fferm laeth fwyaf ym Mhrydain wedi atal y cynllun ar ôl gwrthwynebiad gan ymgyrchwyr ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Fe fyddai’r fferm ymysg y mwyaf yng ngorllewin Ewrop, ac wedi cynnwys bron i bedair mil o wartheg, gan gynhyrchu 215,000 o beintiau o laeth bob dydd.

Cafodd y cais cynllunio ei dynnu yn ôl ddoe ar ôl i Nocton Dairies benderfynu fod gwrthwynebiad Asiantaeth yr Amgylchedd yn debygol o atal y datblygiad.

Roedd y cais cynllunio gwreiddiol, yn ôl ym mis Rhagfyr 2009, yn cynnwys wyth mil o wartheg.

Roedd ymgyrchwyr yn pryderu ynglŷn â lles yr anifeiliaid, yr amgylchedd, a’r effaith ar yr ardal leol.

‘Cynhyrchu mwy gyda llai’

Yn ôl y ffermwyr oedd y tu ôl i’r cynllun £34 miliwn,  David Barnes a Peter Willes, mae’n rhaid i’r diwydiant amaethyddol “ddechrau gwneud mwy â llai”.

Roedd cefnogwyr y cynllun yn dweud y byddai maint y datblygiad wedi gwneud synnwyr economaidd ar adeg pan mae archfarchnadoedd yn gwerthu llaeth am bris dŵr potel.

Ond, yn ôl Nocton Dairies, roedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gwrthwynebu’r cais cynllunio ar sail pryderon y gallai’r prosesau amaethyddol lygru cronfa ddŵr gerllaw.

“Rydyn ni wedi gwneud ein gorau i ymateb i’r pryderon hyn, gan gynnwys buddsoddi £4 miliwn mewn peiriannau fyddai’n clirio’r gwastraff,” meddai datganiad gan David Barnes a Peter Willes.

Ond dywedodd y ddau ei bod hi wedi bod yn “amhosib darparu’r sicrwydd y mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn mynnu ei gael”.