Mae’r Gweinidog Amgylchedd, Caroline Spelman, wedi cefnu ar gynllun dadleuol i werthu coedwigoedd Lloegr i gwmnïau preifat.

Dywedodd ei bod hi’n “ymddiheuro” am y cynllun oedd wedi cythruddo cymaint o bobol.

Mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin dywedodd ei bod hi’n “cymryd cyfrifoldeb llawn” am y cynllun a’r tro pedol.

“Mae’n amlwg erbyn hyn nad ydi’r cyhoedd a nifer o Aelodau Seneddol yn hapus â’r cynigion,” meddai.

Ychwanegodd y bydd panel annibynnol newydd yn cael ei greu er mwyn ystyried polisi’r llywodraeth ar goedwigoedd yn Lloegr.

Fe fydd yn adrodd yn ôl yn yr hydref.

Ychwanegodd Caroline Spelman ei bod hi wedi dod i’r penderfyniad ar y cyd â’r Prif Weinidog, David Cameron.

Ymateb

Croesawodd ysgrifennydd amgylchedd yr wrthblaid, Mary Creagh, ei hymddiheuriad.

“Gaf fi ddechrau drwy groesawu eich ymddiheuriad llawn ac agored ar y mater yma ar ôl gwneud camgymeriad mor fawr,” meddai.

“Rydw i’n siŵr nad ydi’r 48 awr ddiwethaf wedi bod yn hawdd i chi.”

Cyhoeddodd Elin Jones, gweinidog amgylchedd Llywodraeth y Cynulliad, ddechrau’r mis nad oedd hi wedi ystyried gwerthu coedwigoedd Cymru.