David Cameron
Mae David Cameron wedi lansio ymchwiliad seneddol i’r diwydiant bancio yn sgil yr helynt am ddylanwadu ar gyfraddau llog.

Mae’r Prif Weinidog wedi gwrthod galwadau i gynnal ymchwiliad tebyg i Ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg, gan ddweud ei fod am wybod y gwir yn fuan.

Daeth ei sylwadau mewn datganiad i Aelodau Seneddol, ar ôl i bennaeth Barclays Bob Diamond gyfaddef ei fod yn siomedig bod yr helynt wedi digwydd tra ei fod yn bennaeth.

Ond mae wedi awgrymu y bydd yn ymladd i gadw ei swydd gan ddweud ei fod am “wneud yn siŵr na fydd yn digwydd eto.”

Fe ymddiswyddodd cadeirydd Barclays, Marcus Agius bore ma gan gyhoeddi y bydd adolygiad mewnol i arferion busnes y banc.

Dywedodd David Cameron bod y Swyddfa Twyll Difrifol yn ystyried a ellir erlyn y rhai oedd yn gyfrifol.

Mae arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband yn dal i bwyso am ymchwiliad annibynnol.