David Cameron
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi amddiffyn ei benderfyniad i roi’r cyfrifoldeb am gais News International i brynu BSkyB yn nwylo David Hunt.

Tra’n cael ei gyfweld ar sioe Andrew Marr ar y BBC y bore yma, dywedodd fod yr Ysgrifennydd Diwylliant wedi “rhoi cyfrif da ohono’i hun” o flaen ymchwiliad Leveson a gerbron y Senedd.

Dywedodd ei fod, fel Prif Weinidog, wedi cael cyngor gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater.

“Y cyngor gefais i oedd mai nid beth oedd Jeremy Hunt wedi ei ddweud yn gyhoeddus nac yn breifat oedd o bwys ond sut yr oedd yn mynd i ymddwyn yn ystod cyfnod y cais,” meddai.

“Dyma sut y dylwn ni ei farnu o: wnaeth o wneud hynny yn ddoeth a theg ? Fe wnaeth. Fe gafodd gyngor cyfreithiol bob cam o’r ffordd ac fe ddilynodd y cyngor cyfreithiol hynny ac fe wnaeth lawer o bethau nad oedd o blaid y Murdochs na BSkyB na’r ochr yna o bethau.”

Tro pedol ar bolisiau

Dywedodd y Prif Weinidog hefyd bod gan ei lywodraeth “ddyfalbarhad, cryfder a dycnwch” wrth iddo amddiffyn yr ail feddwl ynglyn â pheth o gynnwys y Gyllideb.

Ers mis Mawrth mae’r llywodraeth wedi gwneud tro pedol ar drethi ar garafannau statig a phasteion ac ar roddion i elusennau.

Dywedodd Mr Cameron bod hyn yn brawf o ddewrder y llywodraeth.