Syr Mervyn King
Mae graddfa chwyddiant wedi gostwng i’w lefel isaf ers 14 mis ac yn debygol o gyrraedd targed y Llywodraeth o 2% erbyn diwedd y flwyddyn – arwydd bod y pwysau ar ddefnyddwyr yn dechrau llacio.

Roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi gostwng i 3.6% ym mis Ionawr, o 4.2% ym mis Rhagfyr.

Dywedodd llywodraethwr Banc Lloegr Syr Mervyn King y gellir disgwyl gostyngiad mewn prisiau petrol a thanwydd.

Israddio statws credyd

Yn y cyfamser mae’r asiantaeth Moody’s wedi rhybuddio y gallai statws credyd Prydain gael ei israddio oherwydd pryderon am dyfiant yr economi ac effaith posib argyfwng yr ewro.

Dywedodd Moody’s neithiwr bod Prydain yn  wynebu colli ei statws AAA.

Yn ôl y Canghellor George Osborne mae hyn yn “profi na all Prydain osgoi fynd i’r afael â’i dyledion.”