Mae Barclays wedi cyhoeddi eu bod yn cael gwared â mwy na 400 o swyddi fel rhan o “newidadau hanfodol” i’r adran dechnoleg.

Dywedodd y banc y byddai’n gwneud pob ymdrech i geisio osgoi diswyddiadau gorfodol.

Ond yn ôl llefarydd undeb Unite, David Fleming, mae’r diswyddiadau yn “ergyd” i’r 422 o weithwyr a fydd yn colli eu swyddi.

Dywedodd bod Unite wedi gwrthwynebu penderfyniad y banc i roi gwaith i weithwyr yn Lithuania pan roedd na weithwyr gyda’r sgiliau angenrheidiol eisoes yn gwneud y gwaith yn y DU.  Ond mae Barclays wedi gwadu bod y gwaith yn cael ei drosglwyddo i Lithuania.

Fe fydd y rhan fwyaf o’r swyddi yn cael ei colli yn Radbrooke Hall yn Sir Gaer, a Northampton, yn ôl David Fleming.

RBS

Yn gynharach heddiw fe gyhoeddodd RBS eu bod yn cael gwared â 3,500 o swyddi dros y tair blynedd nesaf yn yr adran fuddsoddi.

Mae’r Llywodraeth yn berchen ar 83% o’r banc ac mae RBS  wedi bod dan bwysau gan y Llywodraeth  i roi’r gorau i’w chynlluniau i fuddsoddi ar lefel byd-eang.

Banc Ulster

Ac mae Banc Ulster hefyd wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw’n bwriadu cael gwared â 950 o weithwyr, gyda 600 o swyddi’n diflannu yng Ngweriniaeth Iwerddon a 350 yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r banc, sy’n un o is-gwmniau RBS, yn dweud bod yn rhaid lleihau’r gweithlu er mwyn bod yn fwy cystadleuol  yn y sector ariannol.

Roedd Banc Ulster wedi diswyddo 1,000 o’u staff yn 2009.