Mae nifer o Geidwadwyr blaenllaw, gan gynnwys y prif weinidog Boris Johnson, mewn perygl o golli eu seddi yn yr etholiad cyffredinol, yn ôl arolwg newydd.

Y rhai eraill yn y fantol yw’r Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab, cyn-arweinydd y blaid Iain Duncan Smith, Steve Baker, Zac Goldsmith, Philip Davies a John Redwood, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Mae’r data wedi cael ei gasglu fel rhan o arolwg ar ran y Sunday Times.

Cafodd 270,000 o bobol eu holi gan YouGov, sydd wedi dadansoddi demograffeg pob etholaeth fel rhan o’r arolwg mwyaf ers cyhoeddi’r etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Me gan Boris Johnson fantais o 16 pwynt dros Lafur yn ei etholaeth yn Uxbridge & South Ruislip, ond fe allai pleidleisio tactegol dros Lafur effeithio’r canlyniad hwnnw.

Byddai angen i 13% o’r bobol sy’n bwriadu pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol neu’r Blaid Werdd droi at Lafur i’w roi e mewn perygl.