Mae angen i weinidogion fynd i afael â’r radd “frawychus” o drais rhywiol sydd yn cyrraedd y llys yng ngwledydd Prydain, meddai’r Blaid Lafur.
Dywed twrnai cyffredinol yr wrthblaid, Nick Thomas-Symonds, hyn wrth gyfeirio at ystadegau swyddogol y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol sy’n dangos mai dim ond 1.7% o gyhuddiadau o dreisio sy’n cyrraedd y llys.
“Mae’r ffigurau ofnadwy wedi mynd yn waeth dros y misoedd diweddar,” meddai.
Dywed bod swyddogion cyfreithiol y Llywodraeth yn llywyddu sefyllfa ble mae dros 98% o achosion yn methu i gyrraedd y cam cyhuddo.
Yn ôl y Twrnai Cyffredinol Lucy Frazer mae cyfradd yr euogfarnau “angen cynyddu” a bod cynlluniau ar waith i wella hyn.
“Trais rhywiol yw un o’r troseddau mwyaf anodd ei phrofi,” meddai, gan nodi ei fod “yn aml yn dibynnu ar ddweud a thystiolaeth unigolion – tystiolaeth dau berson”.