Mae’r academydd Matthew Hedges yn pwyntio bys at Swyddfa Dramor am “beidio gwneud digon” i sicrhau ei ryddhau o’r carchar ar ôl cael ei gyhuddo o ysbio.
Fe gafodd Matthew Hedges ei ryddhau gan yr Emiradau Arabaidd Unedig y llynedd ar ôl treulio chwe mis yng ngharchar lle cafodd ei arteithio. Mae’r driniaeth wedi ei adael yn ddibynnol ar feddyginiaeth ac angen help seiciatrig.
Nawr, mae’n lansio cwyn swyddogol yn erbyn y Swyddfa Dramor gan honni na wnaethon nhw ddigon i glirio ei enw.
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, yn amddiffyn y swyddfa a’i ymdrech i ryddhau’r academydd.
“Ymyrryd ar ran Llywodraeth Prydain”
Mae Daniela Tejeda yn dweud mai dim ond ar ôl lobio dwys, ac oherwydd bod ei gŵr wedi cael ei gyhuddo o weithio i lywodraeth Prydain, oedd y Swyddfa Dramor wedi ymyrryd yn achos Matthew Hedges.
“Cymerodd saith mis iddyn nhw gael Matt yn rhydd ac fe gymerodd hynny lawer o bwysau cyhoeddus cyn iddyn nhw ymyrryd,” meddai Daniela Tejeda ar raglen Today ar Radio 4.
“Doedden nhw ddim yn ymyrryd ar ran Matt yn unig. Roedden nhw’n ymyrryd ar ran lywodraeth Prydain oherwydd bod llywodraeth Prydain yn rhan o’r cyhuddiadau yn erbyn Matt.”