Mae Jeremy Corbyn wedi dweud bod y Blaid Lafur yn “hollol barod” ar gyfer etholiad cyffredinol.

Roedd arweinydd yr wrthblaid yn siarad ag ymgyrchwyr yn Swydd Lancashire a Swydd Caer ar drothwy’r etholiadau lleol yn Lloegr ar Fai 2.

Wrth siarad ag aelodau Llafur mewn tafarn yn Winsford, dywedodd: “Bydd angen etholiad cyffredinol cyn bo hir, a dw i’n dweud hyn wrtho chi, rydyn ni’n hollol barod ar ei gyfer.

“Rydyn ni eisoes wedi dewis ymgeiswyr yn yr holl etholaethau rydyn ni’n eu hystyried yn flaenoriaeth i’w hennill. Rydyn ni hefyd yn gweithio’n galed iawn yn ymgyrchu.”

‘Dim bwriad cynnal etholiad’

Mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog, sydd ar hyn o bryd yn treulio wythnos o wyliau yng ngogledd Cymru, yn dweud nad yw hi’n ystyried unrhyw gynlluniau i gynnal etholiad cyffredinol.

Yn 2017, fe gyhoeddodd Theresa May y byddai’n cynnal etholiad brys ar ôl pendroni ynghylch y mater tra oedd yn cerdded yn ardal Dolgellau, Meirionnydd.

Daw ei gwyliau eleni yng nghanol cyfnod tyngedfennol yng ngwleidyddiaeth gwledydd Prydain, wedi i’r Undeb Ewropeaidd gynnig dyddiad newydd ar gyfer Brexit, sef Hydref 31.

Mae’r ansicrwydd ynghylch gadael naill ai gyda neu heb gytundeb yn parhau hefyd, gyda Llywodraeth Prydain a’r Blaid Lafur wedi methu â chytuno ar unrhyw gyfaddawd yn eu trafodaethau, hyd yn hyn.