Wrth i aelodau seneddol yn San Steffan baratoi i drafod sefyllfa ddiweddaraf Brexit yfory (dydd Llun, Ebrill 1), mae o leiaf chwe miliwn o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw am ddiddymu Erthygl 50, a rhoi stop ar y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Hon yw’r ddeiseb sydd wedi derbyn y gefnogaeth fwyaf yn hanes gwefan ddeisebau San Steffan.

Mae’r ddeiseb yn gwrthod yr awgrym mai Brexit yw “ewyllys y bobol”, ac yn galw am roi gwybod i Gyngor Ewrop na fydd Prydain yn dechrau’r broses o adael.

Ar ei mwyaf poblogaidd, roedd y ddeiseb yn denu 2,000 o lofnodion bob munud.

Mae’r ffigwr diweddaraf yn trechu’r 4.2 miliwn o lofnodion ar ddeiseb yn galw am ail refferendwm yn 2016.