Mae Dominic Grieve, y cyn-Dwrnai Cyffredinol, yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder gan gangen leol o’r Ceidwadwyr yn sgil ei safbwyntiau ar Brexit.

Cafodd y cynnig ei dderbyn gan gangen Beaconsfield ddoe (dydd Gwener, Mawrth 30).

Ond yn ôl Brandon Lewis, cadeirydd y Ceidwadwyr, does gan y bleidlais ddim grym ffurfiol yn ôl rheolau’r blaid, er i Dominic Grieve ei cholli o 182 o bleidleisiau i 131, ac mae e’n “gaffaeliad i’r blaid”, meddai wrth Radio 4.

Roedd yn un o griw trawsbleidiol o aelodau seneddol a geisiodd gipio grym oddi ar Lywodraeth Prydain mewn ymgais i sicrhau cytundeb Brexit yn dilyn sawl ymgais aflwyddiannus gan Theresa May.

Mae lle i gredu mai Jon Conway, ymgeisydd UKIP yr etholaeth yn 2017, oedd wedi trefnu’r cynnig o ddiffyg hyder.

Mae nifer o aelodau seneddol Ceidwadol a Llafur wedi datgan eu cefnogaeth i Dominic Grieve.