Mae Prif Weinidog Prydain wedi dychwelyd o drafodaeth hwyr yn Strasbwrg gyda’r hyn y mae hi’n ei alw’n “ddêl well” ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Heddiw, mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio ar ei chynllun – a dyw hi ddim yn sicr o gwbwl a fydd ganddi’r gefnogaeth sydd ei hangen arni.

Neithiwr (nos Lun, Mawrth 11) fe fu’n trafod gyda Jean-Claude Juncker ym Strasbwrg, gan gyhoeddi o gwmpas 11yh eu bod wedi cytuno ar ddogfennau sy’n gwneud yn siwr na fydd ffin galed yn cael ei chyflwyno ar ynys Iwerddon wedi Brexit.

Mae’r dogfennau, meddai Theresa May, yn egluro ac amlinellu amodau’r ‘backstop’. Mae cyfreithwyr wrthi’n mynd trwy’r dogfennau gyda chrib mân drannoeth y cyfarfod.

Ddiwedd Ionawr, pan ddaeth cynllun Theresa May gerbron aelodau Palas Westminster, fe gafodd ei wrthod yn fflat.