Mae John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, yn dweud bod gan y Blaid Lafur “broblem” o ran gwrth-Semitiaeth, ond mae’n gwadu bod y blaid ar y cyfan yn wrth-Semitaidd.

“Mae’n amlwg ei fod e,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News, wrth gael ei holi a oes gan y Blaid Lafur broblem.

“Dw i’n gwrthod yn llwyr yr honiadau hyn bod y Blaid Lafur yn gyfansoddiadol wrth-Semitaidd, ond mae’n amlwg fod gennym ni [broblem] ac rydym ni wedi derbyn hynny.”

Mae ffigurau’r Blaid Lafur yn awgrymu fod 0.1% o aelodau’r blaid wedi bod ynghlwm wrth achosion o wrth-Semitiaeth.

“Mae’n nifer fach ond mae’n dal yn broblem,” meddai John McDonnell.

“Dw i ddim eisiau’r un person gwrth-Semitaidd yn ein plaid ni, dw i ddim eisiau’r un darn o dystiolaeth o rywbeth gwrth-Semitaidd.

“Mae angen i ni ei ddileu e o’n plaid ni oherwydd mae’n rhaid i’n plaid ni fod ar y blaen gydag eraill yn ei ddileu e o’n cymdeithas ni.”

‘Man ddall’

“Mae yna fannau dall ar y chwith a’r dde,” meddai am honiadau o gelu achosion o wrth-Semitiaeth.

“Mae’r dde wedi bod yn ymosodol o wrth-Semitaidd yn ein cymuned ond oes, mae yna broblem ar y chwith.”

Ac mae’n dweud ei fod yn croesawu fideo gan Momentum yn herio agweddau gwrth-Semitaidd yn y gymuned.