Mae disgwyl i’r Aelod Seneddol Llafur, Fiona Onasanya, gerdded yn rhydd o’r carchar heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 26), lai na pedair wythnos ar ôl cael ei charcharu am dwyllo’r system gyfiawnder.

Fe gafodd ei charcharu am dri mis am d dweud celwydd wrth yr heddlu er mwyn osgoi dirwy a phwyntiau am or-yrru.

Clywodd llys yr Old Bailey yn ystod yr achos ei bod hi wedi gyrru ar gyflymder o 41 milltir yr awr ar lôn 30 milltir yr awr ger Petersborough ym mis Gorffennaf 2017. Ond fe drosglwyddodd y gyfreithwraig 35 oed y ddirwy i’w brawd, Festus.

Er gwaethaf hyn, fe wrthododd yr Aelod Seneddol dros Petersborough – a gafodd ei chicio allan o’r Blaid Lafur dros yr achos – gamu o’r neilltu o’i swydd.

Cafodd hi ei charcharu ar Ionawr 29 ar ôl derbyn euogfarn yn yr Old Bailey.

Mae disgwyl iddi gael ei rhyddhau o garchar Bronzefield yng ngorllewin Llundain, o dan gynllun rhyddhau cynnar a gallai ymddangos yn Nhŷ’r Cyffredin ar gyfer pleidlais Brexit yfory (dydd Mercher, Chwefror 27) yn gwisgo tag troseddol.

O dan reolau seneddol dim ond Aelodau Seneddol sydd wedi’u dedfrydu i gyfnod o ddeuddeg mis neu fwy sy’n cael eu gwahardd o Dy’r Cyffredin.