Mae arweinwyr gwleidyddol wedi condemnio’r ymosodiadau “barbaraidd” yn Llundain nos Sadwrn.
Fe gafodd chwech o bobol eu lladd, a mwy na 30 eu hanafu.
Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi estyn ei chydymdeimlad wedi’r ymsodiadau ar Bont Llundain ac ym Marchnad Borough, gan ddweud bod y digwyddiadau “wedi’u hanelu at bobol oedd allan yn mwynhau noson allan gyda ffrindiau a theulu”.
Mae Maer Llundain, Sadiq Khan, wedi disgrifio’r ymosodiadau fel rhai “bwriadol a chachgiaidd”.
Yn ol arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, roedd yr ymosodiad brawychol yn un “ciaidd a dychrynllyd”.
Beth ddigwyddodd?
– 10.07yh – y gwasanaeth ambiwlans yn cael ei alw, wedi adroddiadau fod cerbyd yn gyrru trwy ganol cerddwyd ar Bont Llundain;
10.08yh 0 yr heddlu’n cael eu galw i’r digwyddiad;
– Mae swyddogion wedyn yn cael eu galw i Farchnad Borough, wedi adroddiadau o drywanu;
– O fewn wyth munud, mae tri dyn yn cael eu saethu’n farw gan heddlu arfog ym Marchnad Borough;
– Adroddiadau fod y dynion yn gwisgo fest o ffrwydron, bob un. Ond, mae’n ymddangos mai twyll oedd hynny;
– Mae beth bynnag 48 o bobol wedi’u cludo i ysbytai yn Llundain, ac mae 80 o feddygon yn cael eu hanfon i safloedd yr ymosodiadau;
– Yn ystod oriau man dydd Sul, mae Heddlu Metropolitan Llundain yn cadarnhau mai ymosodiadau brawychol oedd y ddau ddigwyddiad.