Llun: PA
Mae’r Prif Weinidog, Theresa May, wedi awgrymu y bydd y Ceidwadwyr yn ymrwymo i leihau nifer y mewnfudwyr i “ddegau o filoedd” yn eu maniffesto etholiadol.

Wrth siarad yn Harrow pwysleisiodd bod yn rhaid sicrhau “lefelau cynaliadwy” o fewnfudo er mwyn lleddfu’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus ac ar bobol sydd ar gyflogau is.

Ar ddydd Sul dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, ei bod am weld “mewnfudo yn lleihau” ond methodd a chadarnhau os fyddai’r targed uchelgeisiol yn ymddangos fel addewid yn eu maniffesto.

Mi wnaeth yr addewid ymddangos ym maniffestos y Torïaid yn 2010 a 2015, a methodd Theresa May i gyrraedd y targed tra’r oedd hi’n Ysgrifennydd Cartref.

Methu targedau

Mi fydd y Blaid Lafur yn datgelu eu polisi mewnfudo’r wythnos nesaf – polisi fydd yn “deg” ac yn “gweithio i bawb” yn ôl arweinydd y blaid Jeremy Corbyn.

Yn ystod ymweliad â Chaerwrangon dywedodd Jeremy Corbyn: “Mi wnaeth Theresa May addo cyrraedd y targed yn 2010 ac yn 2015, a methodd bob tro.”