Llun: PA
Mae Aelodau Seneddol wedi dechrau cyflwyno dadl a chraffu ar y Mesur fydd yn arwain at danio Erthygl 50 a gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe ddaw’r ddadl i ben nos Fercher gyda phleidlais, ac mae’r Blaid Lafur wedi dweud na fyddan nhw’n ceisio atal tanio Erthygl 50 gyda Jeremy Corbyn wedi gorchymyn Aelodau Seneddol Llafur i gefnogi’r Mesur.

Ond mae sawl AS Llafur yn gwrthwynebu hyn gan gynnwys Jo Stevens, AS Canol Caerdydd.

Fe ymddiswyddodd o gabinet Jeremy Corbyn yr wythnos diwethaf a hithau’n Ysgrifennydd Cysgodol Cymru.

Fe fydd y Mesur yn dychwelyd wedi hynny i Dŷ’r Cyffredin yr wythnos nesaf ar gyfer y cyfnod pwyllgor lle mae disgwyl i’r gwrthbleidiau geisio sicrhau cyfres o welliannau.

Fe ddyfarnodd y Goruchaf Lys yr wythnos diwethaf fod angen sêl bendith y Senedd cyn tanio Erthygl 50, ond nad oedd angen caniatâd Llywodraeth Cymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon cyn gwneud hynny.

Mae Theresa May wedi cyhoeddi ei bod am ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd Mawrth, ac mae hynny’n golygu symud y Mesur drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.