Mae Syr Ivan Rogers wedi beirniadu “dadleuon di-sail a meddwl trwsgl” Llywodraeth Prydain wrth iddo gyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd fel Llysgennad yr Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddodd ei fod yn ymddiswyddo fisoedd ar ôl iddo rybuddio’r Llywodraeth y gallai gymryd hyd at ddegawd i sicrhau cytundeb masnach ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Hyd yn oed wedyn, meddai, fe allai unrhyw gytundeb fod yn ddibynnol ar sêl bendith gwledydd sy’n dal yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ei lythyr, sydd wedi cael ei weld gan y Times a’r BBC, dywedodd Syr Ivan Rogers nad yw gweision sifil yn gwybod o hyd beth yw blaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer Brexit, ac fe feirniadodd ddiffyg profiad swyddogion Whitehall.

Dywedodd: “Gobeithio y byddwch chi’n cefnogi’ch gilydd yn yr eiliadau anodd hynny lle mae’n rhaid i chi gyflwyno negeseuon nad ydyn nhw at ddant y sawl y mae angen iddyn nhw eu clywed.”

Ychwanegodd ei fod e wedi penderfynu gadael ei swydd yn gynnar er mwyn i’w olynydd gael dechrau ar y gwaith erbyn i Lywodraeth Prydain weithredu Cymal 50 ym mis Ebrill.

Canmoliaeth

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd cyn-bennaeth y Gwasanaeth Diplomyddol, Syr Simon Fraser fod Prydain yn colli un o’i phrif arbenigwyr cyn trafodaethau “cymhleth iawn”.

Dywedodd wrth raglen Today ar Radio 4: “Mae e’n alluog iawn, yn wybodus ac yn swyddog profiadol ac yn un o’r arbenigwyr gorau, os caf fi ddefnyddio’r gair ‘arbenigwr’, i ni ei gael ar faterion Ewropeaidd yn y Gwasanaeth Sifil Prydeinig.”

Fe wfftiodd yr awgrym nad oedd Syr Ivan Rogers yn ddigon cryf i allu sicrhau’r cytundeb gorau i wledydd Prydain, gan gynnwys yn ystod yr adeg pan oedd y cyn-Brif Weinidog David Cameron yn ceisio addasu perthynas Prydain â’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd ei fod yn dweud ei ddweud “yn blwmp ac yn blaen”.

“Mae unrhyw un sy’n adnabod Ivan, ac sydd wedi gweithio gyda fe, yn gwybod yn iawn nad oedd e’n rhywun oedd yn barod i dderbyn ‘Na’ fel ateb.

“Roedd e’n drafodwr dyfalbarhaus, gan ddangos tipyn o benderfyniad ac fe weithiodd e’n eithriadol o galed i gyflawni amcanion y Llywodraeth.”