George Michael
Bu farw’r cerddor a’r canwr pop, George Michael, yn 53 mlwydd oed.

Y gred ydi ei fod wedi cael trawiad ar y galon.

Fe ddaeth George Michael i amlygrwydd fel un hanner o’r grwp Wham! yn y 1980au, ac ymhlith eu caneuon mwya’ adnabyddus roedd ‘Last Christmas’.

Mae ei reolwr, Michael Lippman, wedi cyhoeddi datganiad yn dweud i’r canwr farw yn dawel gartre’, o ganlyniad i drawiad.

Enw iawn George Michael oedd Georgios Kyriacos Panayiotou, ac fe werthodd 100 miliwn o albymau dros yrfa yn ymestyn dros bedwar degawd.