Fe fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn awgrymu bydd hi’n gwneud toriadau i’r dreth gorfforaethol mewn ymgais i blesio arweinwyr y byd busnes.

Wrth annerch cynhadledd flynyddol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), fe fydd Theresa May yn pwysleisio mai ei hamcan yw parhau i gynnig y trethi isaf ymhlith gwledydd y G20, sef y grŵp o wledydd sy’n cynnwys 20 economi cryfa’r byd.

Mae’r dreth ar elw busnesau yng ngwledydd Prydain yn 20% ac mae disgwyl iddi ostwng i 17% erbyn 2020.

Fe fydd Theresa May hefyd yn dweud fod canlyniad Brexit wedi cynnig cyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” i’r byd busnes, nid yn unig i adael yr Undeb Ewropeaidd ond i newid y wlad a’i gwneud yn decach.

Yn ôl Theresa May: “Rydym yn credu mewn marchnad rydd. Dyna’r ffordd i hybu cyfleoedd a helpu pobl allan o dlodi.”

Ychwanegodd: “Rydym yn credu mewn cyfalafiaeth sy’n gyrru twf economaidd, gan roi pobl mewn gwaith.”

Bwriad ei haraith yw gwella’r cysylltiadau gyda ffigurau blaenllaw mewn diwydiant ac mae disgwyl iddi hefyd gyhoeddi y bydd hwb gwerth £2 biliwn y flwyddyn ar gyfer ymchwil i wyddoniaeth a thechnoleg erbyn 2020.