Mae Jeremy Corbyn wedi rhybuddio y bydd y Blaid Lafur yn pledleisio yn erbyn gweithredu Cymal 50 er mwyn gadael yr Undeb Ewropeaidd oni bai bod Theresa May yn cytuno i geisio sicrhau mynediad i’r farchnad sengl.

Byddai’r bygythiad yn golygu ymuno â Cheidwadwyr ac aelodau’r pleidiau eraill oedd wedi cefnogi aros yn Ewrop, yn ôl y Sunday Mirror.

Dywedodd Corbyn wrth y papur newydd y gallai Prif Weinidog Prydain wynebu etholiad cynnar oni bai ei bod hi’n ildio i ofynion y Blaid Lafur.

Ond mae May wedi rhybuddio bod “angen derbyn yr hyn wnaeth y bobol ei benderfynu”.

Fe fydd Llywodraeth Prydain yn apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys yr wythnos diwethaf fod rhaid cael caniatâd y Senedd gyfan cyn y bydd modd gweithredu Cymal 50 i ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae May yn mynnu y bydd y broses wedi dechrau erbyn diwedd mis Mawrth.

Ond mae Corbyn yn mynnu na fydd ei blaid yn cefnogi’r broses oni bai bod hawliau gweithwyr wedi cael eu gwarchod yn llawn cyn hynny, a bod hynny’n golygu cael mynediad i’r farchnad sengl.

Dywedodd wrth bapur newydd y Sunday Mirror ei fod e a’i blaid “wedi derbyn” canlyniad y refferendwm, a bod y dyfarniad yn faen tramgwydd.

“Dydyn ni ddim yn herio’r refferendwm. Dydyn ni ddim yn galw am ail refferendwm. Rydyn ni’n galw am fynediad diwydiannau i’r farchnad yn Ewrop.”

Dywedodd fod ei blaid yn barod am etholiad cynnar pe bai’n digwydd, ac y byddai’n gyfle i’w blaid gyflwyno “economi amgen”.