Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae sedd arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ymysg yr hanner cant o etholaethau fydd yn cael eu diddymu fel rhan o gynllun i adrefnu ffiniau etholaethau ar draws Prydain.

Mae Jeremy Corbyn wedi cynrychioli Islington yng ngogledd Llundain ers 1983, ond y bwriad yw ad-drefnu’r etholaeth honno â’i huno ag etholaethau Parc Finsbury a Stoke Newington.

Golyga hyn y byddai’n rhaid i Jeremy Corbyn fynd benben â dwy o’i gyd Aelodau Seneddol Llafur, sef Diane Abbot sy’n Llefarydd Iechyd y blaid ac Emily Thornberry sy’n Llefarydd Materion Tramor y blaid.

‘Anhapus iawn’

Dywed Jeremy Corbyn ei fod yn “anhapus iawn” â’r newid i ffiniau etholaethol a fyddai’n cwtogi nifer yr Aelodau Seneddol o 650 i 600 ym Mhrydain.

Mae hyn yn golygu gostyngiad o 40 i 29 Aelod Seneddol i Gymru, 533 i 501 yn Lloegr, 59 i 53 yn yr Alban a 18 i 17 yng Ngogledd Iwerddon.

Ac mae disgwyl i sedd yr ymgeisydd arall ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Lafur gael ei had-drefnu hefyd, gydag etholaeth Owen Smith ym Mhontypridd yn uno ag etholaeth Cwm Cynon sy’n cael ei gynrychioli gan Ann Clwyd.

Y Ceidwadwyr

O ran y Ceidwadwyr, mae sedd y Prif Weinidog Theresa May, Maidenhead, yn aros yr un peth, a does fawr ddim newid i sedd y Canghellor Philip Hammond, sef Runnymede a Weybridge.

Yn ogystal, does dim newid i seddi Liam Fox, Jeremy Hunt nac Amber Rudd, ond fe allai etholaeth yr Ysgrifennydd Brexit David Davis, sef Haltemprice a Howden yn nwyrain Swydd Efrog, gael ei rhannu’n ddwy.

Mae’n bosib hefyd y bydd etholaeth Boris Johnson, Uxbridge a De Ruislip yn Llundain, yn cael ei had-drefnu a’i huno â sedd Hillingdon.

Ac mae llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud eu bod yn “hyderus” i gadw pob un o’i 8 o seddi ar draws Prydain yn y trefniant newydd, gan obeithio ennill un newydd yng Nghaergrawnt.

Newidiadau arwyddocaol eraill yn Lloegr

Mae ambell newid arwyddocaol i ffiniau etholaethol Lloegr yn cynnwys:

–          Ad-drefnu etholaeth Clacton a’i huno â Harwich yn Essex. Dyma sedd yr unig Aelod Seneddol UKIP, Douglas Carswell.

–          Ad-drefnu etholaeth y cyn-Ganghellor George Osborne, Tatton.

–          Gwaredu â sedd hanesyddol Rushcliffe yn Swydd Nottingham, sydd wedi cael ei chynrychioli gan y cyn-Weinidog cabinet Ken Clarke ers 1970.

–          Ad-drefnu etholaeth Batley a Spen a oedd yn cael ei gynrychioli gan yr Aelod Seneddol Llafur, Jo Cox, ond a fu farw ym mis Mehefin ar ôl cael ei saethu. Mae isetholiad ar y gweill yma hefyd.

–          Does dim newidiadau i etholaeth Witney, lle’r oedd David Cameron yn ei gynrychioli tan ddoe, pan gyhoeddodd ei ymddiswyddiad. Mae isetholiad ar y gweill yma hefyd.