Mae UKIP wedi penderfynu gadael Steven Woolfe allan o’r ras i olynu Nigel Farage fel arweinydd y blaid.

Fe gyflwynodd Woolfe, llefarydd y blaid ar fudo, ei enw 17 o funudau’n hwyr.

Y rhai sydd wedi’u henwebu yw Bill Etheridge, Diane James, Elizabeth Jones, Jonathan Arnott, Lisa Duffy a Phillip Broughton.

Mae tri aelod o bwyllgor gwaith UKIP wedi ymddiswyddo yn dilyn y penderfyniad i adael enw Woolfe oddi ar y rhestr.

Mae Woolfe, oedd wedi’i gefnogi yn y ras gan yr Aelod Cynulliad Nathan Gill, wedi cyhuddo Douglas Carswell ac arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Neil Hamilton o geisio’i atal rhag bod yn ymgeisydd.

Roedd Woolfe yn cael ei ystyried yn ffefryn i gael ei ethol ac ers y ffrae, fe ddaeth i’r amlwg hefyd ei fod e wedi methu â dweud pan safodd fel ymgeisydd yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu yn 2012 ei fod e wedi cael ei gollfarnu am yfed a gyrru.

Dywedodd ei fod e “wedi anghofio” am y gollfarn pan safodd yn ardal Manceinion.

Mae e hefyd yn gwadu nad oedd e’n aelod am gyfnod yn 2014 ar ôl i’w aelodaeth ddod i ben.

Mae Farage wedi annog pleidleiswyr i ddewis arweinydd all cynrychioli’r blaid “ar yr holl lwyfannau cyfryngol”, ac mae’n dweud y dylai’r arweinydd newydd wrthod cydweithio â phwyllgor gwaith y blaid sydd, meddai, yn “rhwystr i newidiadau radical a moderneiddio”.