Ffoaduriaid (Llun: Arbeitsbesuch Mazedonien CCA2.0)
Mae un o bwyllgorau San Steffan wedi dweud y dylid gwneud mwy i ail-uno teuluoedd o ffoaduriaid os oes ganddyn nhw berthnasau yng ngwledydd Prydain.
Dywedodd Pwyllgor Materion Cartref San Steffan y dylai 157 o ffoaduriaid ifainc fod wedi cyrraedd eisoes.
Ond maen nhw’n rhybuddio y dylid gwneud hyn fel “gweithred unigol”.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Keith Vaz ei bod hi’n “annerbyniol” nad yw’r plant eisoes wedi cael dod i wledydd Prydain.
Yn ôl arbenigwyr, mae’r amodau yn y gwersylloedd lle mae’r ffoaduriaid yn cael eu cadw dros dro yn “erchyll” ac yn arwain at “ddioddefaint a salwch”.
Mae’r pwyllgor hefyd yn dweud bod gan rai o’r ffoaduriaid yr hawl i geisio am loches.
Maen nhw hefyd yn galw am ddiwygio’r drefn o roi visa i ffoaduriaid sy’n gwneud cais am loches fel nad yw ffoaduriaid yn rhoi eu hunain mewn perygl wrth geisio croesi i wledydd Prydain.
Torri addewid
Mae llefarydd materion cartref y Blaid Lafur, Andy Burnham wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o dorri eu haddewid i roi cartref i ragor o ffoaduriaid.
Ond wrth ymateb, dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod yn “cefnogi’r egwyddor o undod teuluol”, a’u bod yn parhau i gydweithio â’r awdurdodau yn Ffrainc i ddatrys y sefyllfa yn Calais.
Mae 30 o blant wedi cael yr hawl i ddod i wledydd Prydain ers i ddeddfwriaeth newydd gael ei chyflwyno.