Jeremy Corbyn (Rwedland CCA 4.0)
Mae undeb y gyrwyr trenau Aslef wedi dweud y bydd yn cefnogi Jeremy Corbyn yn ei ymgais i gael ei ailethol yn arweinydd y Blaid Lafur.

Roedd yr undeb hefyd wedi  cefnogi Jeremy Corbyn yn i bleidlais i ddewis arweinydd newydd.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Mick Whelan, fod Aslef yn cefnogi Jeremy Corbyn oherwydd ei fod wedi arwain y Blaid Lafur gyda “rhagoriaeth.”

Ychwanegodd bod Jeremy Corbyn wedi llwyddo i ddenu aelodau oedd wedi eu dadrithio gan Lafur Newydd Tony Blair a oedd yn cynnig “yr un math o bolisïau â’r Torïaid. ”

Fe wnaeth undeb y gweithwyr adeiladu UCATT gyhoeddi eu cefnogaeth i Jeremy Corbyn ddydd Mawrth.

Owen Smith, AS Pontypridd, yw’r unig ymgeisydd arall sy’n herio Corbyn am yr arweinyddiaeth.