Angela Eagle Llun: Lauren Hurley/PA Wire
Mae Jeremy Corbyn wedi apelio ar bobl i bwyllo ar ôl i fricsen gael ei thaflu drwy ffenestr swyddfa’r ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Angela Eagle.

 

Dywedodd Jeremy Corbyn ei bod hi’n “hynod o bryderus” bod rhywun wedi ymosod ar swyddfa etholaethol Angela Eagle gan ychwanegu bod “ASau eraill yn derbyn sarhad a bygythiadau” hefyd.

Ychwanegodd ei fod yntau wedi derbyn bygythiadau i’w ladd yr wythnos hon.

Dywedodd Heddlu Glannau Mersi eu bod wedi cael eu galw i’r eiddo yn etholaeth Angela Eagle yn Wallasey fore dydd Mawrth yn dilyn adroddiadau o ddifrod troseddol.

Mae’r digwyddiad yn dilyn ymgyrch ffurfiol gan Angela Eagle ddydd Llun i  herio Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Mae digwyddiad arall a oedd wedi cael ei drefnu mewn gwesty yn Luton heddiw wedi cael ei symud i leoliad arall ar ôl i’r gwesty dderbyn bygythiadau, meddai swyddfa Angela Eagle.

‘Parch ac urddas’

Dywedodd Jeremy Corbyn mewn datganiad ei fod yn galw ar holl aelodau a chefnogwyr y Blaid Lafur i drin ei gilydd gyda pharch ac urddas.

Meddai: “Rwy’n beirniadu unrhyw drais neu fygythiadau sy’n tanseilio democratiaeth o fewn ein plaid, ac nid oes lle i hynny yn ein gwleidyddiaeth.”

 

Cyfarfod yr NEC

 

Yn y cyfamser, bydd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol (NEC) y Blaid Lafur yn cyfarfod heddiw i drafod a oes angen i Jeremy Corbyn ennill 52 o enwebiadau gan ASau ac ASEau y blaid i sefyll am yr arweinyddiaeth eto yn dilyn her gan Angela Eagle.

Roedd disgwyl i Jeremy Corbyn wneud araith yng ngynhadledd Unite yn Brighton heddiw ond mae wedi gohirio ei ymddangosiad er mwyn mynychu cyfarfod yr NEC.

Os fydd yr NEC yn penderfynu bod angen i Jeremy Corbyn ennill yr enwebiadau i ymgeisio, sy’n annhebygol iawn oherwydd y diffyg cefnogaeth sydd ganddo, gall yr NEC wynebu camau cyfreithiol yn ei erbyn.

Mae’r NEC wedi derbyn cyngor cyfreithiol anghyson ar y mater gyda dadansoddiad a gomisiynwyd gan Lafur yn awgrymu ei fod angen yr enwebiadau, ond mae cyngor gafodd undeb Unite gan Michael Mansfield QC wedi dod i’r casgliad nad oes angen yr enwebiadau oherwydd ei fod yn arweinydd  presennol.

Yn y cyfamser mae Angela Eagle yn wynebu gwrthwynebiad i’w her am yr arweinyddiaeth yn ei hetholaeth leol. Mae hi bellach yn wynebu cael ei dadethol ar ôl i aelodau’r Blaid Lafur yn etholaeth Wallasey gyhoeddi eu bod yn gefnogol i Jeremy Corbyn.